Heno (dydd Gwener, Mawrth 13) bydd nifer o gerddorion amlycaf Cymru yn perfformio gig yn rhad ac am ddim i godi arian i Glwb y Bont, y clwb Cymraeg ym Mhontypridd wnaeth ddiodde’n enbyd yn sgil y llifogydd.
Cafodd nifer fawr o gartrefi a busnesau cymoedd y de eu taro’n wael gan y llifogydd diweddar, gan gynnwys y clwb sy’n ganolbwynt i fywyd Cymraeg Pontypridd.
Bydd gig yn yr Hen Ffatri Bop yn y Porth yn benodol i godi arian i Glwb y Bont, ac mae’r Fenter Iaith leol wedi gweithio mewn partneriaeth â chwmni teledu Avanti i drefnu’r noson.
Ymysg yr artistiaid fydd yn perfformio mae Bryn Fôn, Elin Fflur, Huw Chiswell, Eden ag Al Lewis.
“Pan ti’n gweld effaith y llifogydd ar fywydau pobl ac yn gallu rhoi rhywbeth yn ôl drwy ganu cân, sy’n rhywbeth mor fach allwn ni gyfrannu i helpu, mae’n rhaid i chdi wneud o,” meddai Elin Fflur wrth golwg360.
“Dw i’n gwybod ei fod o’n le pwysig o ran cerddoriaeth Cymraeg hefyd.”