Mae ffotograffydd wedi cael modd i fyw yn tynnu lluniau cwyrci o’i chymdogion yn ystod y pandemig…

Mae’r cyfnod Covid wedi rhoi cyfle i ffotograffydd o Sir Gaerfyrddin deimlo’n gartrefol yn ei milltir sgwâr unwaith eto, ar ôl iddi ddioddef trawma ofnadwy rai blynyddoedd yn ôl.

Ar ôl y cau ddiwedd Mawrth, sylwodd Michele Wright bod rhywun yr oedd hi’n ei hadnabod wedi dechrau tynnu lluniau eu cymdogion ar garreg y drws a’u rhoi ar Facebook.