Mae’n 187 o flynyddoedd union heddiw (dydd Gwener, Hydref 28) ers i He Whakaputanga o te Rangatiratanga o Nu Tireni (Datganiad Annibyniaeth Llwythau Unedig Seland Newydd) gael ei lofnodi.

Cafodd ei lofnodi gan 34 o benaethiaid gogleddol a James Busby, Prydeiniwr oedd yn gofidio bod y Ffrancwr Charles Philippe de Thierry am geisio datgan annibyniaeth yn Hokianga ar ynys y gogledd.

Yn ôl cyfreithiwr yn Seland Newydd, sydd wedi bod yn siarad â gwefan newyddion Waatea yn Seland Newydd, mae’r ddogfen yn dystiolaeth fod llwythau brodorol y wlad yn fwy na “chwedlau a straeon tylwyth teg”, gan chwalu delweddau ymerodraethol nad ydyn nhw’n bobol go iawn.

“Mae ffuglen ymerodraethol yn cylchdroi o amgylch y syniad yma ein bod ni’n chwedlau a straeon tylwyth teg i gyd, ac na chawson ni mo’n hadeiladu go iawn fel cymdeithas â hunanreolaeth,” meddai.

“Gyda He Whakaputanga [y datganiad], roedden ni’n arddel hunanlywodraeth, ac mae’r llywodraeth heddiw a phob llywodraeth ymerodraethol ers 1840 wedi bod eisiau gwadu hynny.”

Mae hi’n galw am sicrhau bod plant heddiw’n dysgu’r hanes fel rhan o’r cwricwlwm er mwyn sicrhau nad yw cenedlaethau o blant y dyfodol yn dysgu’r hanes trwy lygaid yr ymerodraeth.

Cefndir

Cafodd y datganiad ei lofnodi gan 34 o benaethiaid Māori ar Hydref 28, 1835, ac fe ddenodd 18 yn rhagor o lofnodion erbyn 1839.

Yn eu plith roedd arweinwyr Hawkes Bay a Waikato, a’r olaf o’r ddau ddaeth yn frenin y Māori maes o law.

Yn sgil y datganiad, cafodd Aotearoa ei chyhoeddi’n wladwriaeth Māori annibynnol ac ni fyddai gan dramorwyr yr hawl i basio cyfreithiau.

Cafodd y ddogfen ei disgrifio gan James Busby fel “Magna Carta Annibyniaeth Seland Newydd” oedd yn rhoi’r grym yn nwylo’r bobol frodorol.

Cafodd ei chydnabod gan y Deyrnas Unedig, ac fe ddaeth â’r Māori i lwyfan y byd am y tro cyntaf gan godi ymwybyddiaeth o’u hanes a’u traddodiadau.

Roedd pedair erthygl yn y ddogfen, gan gynnwys un oedd yn datgan annibyniaeth gwladwriaeth Aotearoa, ac un arall yn rhoi grym sofran dros y tir i’r penaethiaid brodorol.

Yn gyfnewid am rym drostyn nhw eu hunain, gofynnodd y penaethiaid i William IV, Brenin Lloegr, barhau i fod yn bennaeth ar y wladwriaeth ac iddo sicrhau ei bod yn aros yn annibynnol.

Cafodd dogfen James Busby ei chyfieithu i’r iaith Māori gan Henry Williams, ac mae degau o gopïau wedi’u hargraffu ar hyd y blynyddoedd.

Mae’r ddogfen wreiddiol bellach ar gof a chadw yn archifau Seland Newydd, ac mae copi’n cael ei arddangos fel ffordd o godi ymwybyddiaeth o’r hanes.