Mae cyfieithydd o Aberystwyth yn brysur yn cyfieithu un o glasuron byd y nofelau Cymraeg i’r Saesneg, ac yn annog eraill i ymuno â’r maes cyfieithu llenyddol.

Y nofel wyddonol gan Owain Owain, Y Dydd Olaf a gafodd ei chyhoeddi yn 1976, yw testun Emyr Humphreys.

Astudiodd Emyr Humphreys gwrs Astudiaethau America Ladin yn y brifysgol yn Lerpwl cyn treulio cyfnod yn yr Ariannin a’r Wladfa a symud wedyn i fyw ym Mrasil.

Ar ôl dychwelyd i Gymru pan ddaeth COVID-19, fe ddechreuodd ddarllen rhestr o nofelau Cymraeg roedd e eisiau eu darllen, ac ar y rhestr roedd Y Dydd Olaf.

Pam Y Dydd Olaf?

Wedi’i syfrdanu ar ôl darganfod nad oedd cyfieithiad Saesneg o’r nofel, aeth Emyr Humphreys ati i sgwrsio gyda Robin Owain, mab yr awdur, cyn dechrau ar y gwaith o’i chyfieithu.

“Wnes i ddechrau darllen ac roedd e jest yn llyfr anhygoel,” meddai wrth golwg360.

“Roedd e mor wahanol i beth rydw i wedi darllen hyd yma.

“Roedd e wastad yng nghefn fy mhen.

“Wedyn pan do’n i methu ffeindio fersiwn Saesneg ar-lein, ro’n i’n meddwl ‘Ie, pam lai?’

Pwysigrwydd cyfieithu o’r Gymraeg

Ehangu ar welededd yr iaith Gymraeg a’i diwylliant yw rheswm Emyr Humphreys am gyfieithu’r nofel.

“Mae e’n gyfle anhygoel ar gyfer llenyddiaeth Cymraeg yn y Saesneg i gael mwy o sylw,” meddai.

“Mae amrywiaeth o lenyddiaeth i’w gael yma ac mae yna bethau bron rhyfedd i gael.

“Mae yna ffuglen wyddonol a phethau arbrofol hefyd.

“Dw i’n meddwl, wrth drio cael mwy o lyfrau Cymraeg – ymysg yr holl lyfrau eraill sydd wedi eu cyfieithu o ieithoedd eraill – mae yna botensial enfawr.”

‘Dadatomeiddio’ cyfieithu llenyddol o’r Gymraeg

Aeth Emyr Humphreys ati i ddysgu Sbaeneg yn y brifysgol, cyn mynd yn ei flaen i’w defnyddio wrth deithio a byw yn Ne America.

Ar ôl cyfarfod â merch o Frasil, symudodd y pâr yno.

Ond mae ychydig o wahaniaethau rhwng cyfieithu o’r Gymraeg ac o Bortiwgaleg, meddai.

“Gyda’r Gymraeg dw i’n meddwl bod y ffaith bod pawb yn siarad Saesneg hefyd nawr yn gwneud y broses o ddod o hyd i rywbeth i gyfieithu’n anodd achos mae yna lawer o bobol sy’n cyfieithu pethau eu hunain, fel Manon Steffan Ros a Llyfr Glas Nebo.

“Dyna yw’r brif sialens ond hefyd dw i’n meddwl bod mwy o elfen o newydd-deb wrth gyfieithu o’r Gymraeg.

“Mae fe’n rywbeth newydd bron i ddarllenwyr y byd os maen nhw’n darllen rhywbeth o Gymru.

“Ond gyda’r Bortiwgaleg mae yna gymaint fwy o bobol ac mae’r sîn cyfieithu nofelau yn anferth.”

Mae cyfieithu nofelau’n rywbeth yr hoffai Emyr ei weld yn tyfu yng Nghymru.

“Hoffwn weld cyfieithu llenyddol yn cael ei ddadatomeiddio a gweld mwy o bobol, plant ysgol hyd yn oed, yn cyfieithu ac yn hela stwff at gyhoeddwyr a jest bod yn hyderus gyda chyfieithu llenyddol,” meddai.

“Os bod mwy o bobol yn hyderus i wneud hynny dw i’n meddwl bydd proffil cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg yn tyfu a bydd mwy o bobol yn gweld bod o’n bodoli, a gobeithio bydd mwy o lyfrau yn cael eu cyhoeddi yn y Saesneg.”