Mae dwy arddangosfa newydd sy’n dod ag elfennau Cymreig a Jamaicaidd ynghyd wedi agor ym Mangor.
Yn eu harddangosfeydd yn Storiel, mae Audrey West a Gareth Griffith yn edrych ar ddiwylliannau’r ddwy wlad, ynghyd â thraddodiadau diwylliannol gwledydd eraill.
Mae gan y ddau gysylltiadau cryf â Jamaica.
Cafodd Audrey West ei geni yno, a daeth i’r Deyrnas Unedig fel rhan o ‘Genhedlaeth Windrush’ yn 1962, tra bod Gareth Griffith wedi bod yno’n dysgu celf.
Yn yr arddangosfa ‘A Cappella Storiel: Caneuon Prynedigaeth’, mae gwaith Audrey West yn fynegiant creadigol sy’n archwilio’r gwrthdaro o amgylch hanes a pherthynas, atgof a phoen, crefydd a llawenydd.
Mae ei phaentiadau yn chwareus, therapiwtig, ac yn archwiliad o straeon personol a diwylliannol.
“Fy uchelgais yw adeiladu cadeirlan o goffadwriaeth i’r dioddefant a’r fuddugoliaeth dros y fasnach gaethwasiaeth trawsatlantig, tra’n cwestiynu’r eiconau diwylliannol,” meddai Audrey West, oedd wedi symud o Lundain i ogledd Cymru yn 2017.
“Yn y cyfamser, rwy’n braslunio ar gyfer y darlun dychmygol yma gan ddefnyddio’r gwagleoedd sydd ar gael.
“Yn yr oriel hon yn Storiel. rwy’n bwriadu creu synnwyr o gapel gydag amgylchedd myfyriol ac ymdeimlad o dawelwch, ynghyd ag adrodd am y gwirionedd.
“Mae’r gwaith aml-gyfrwng yn cynnwys portreadau, murluniau, gwrthrychau a ganfuwyd a recordiadau sain sy’n symbolau huawdl o deithiau personol a thorfol.”
‘Fy mywyd a’m mhrofiad’
Gareth Griffith yw cyd-enillydd Gwobr Paentio BEEP (Biennial Exhibition of Painting) yn Abertawe eleni, ac mae ei arddangosfa, ‘Ystafell Artist’, yn edrych ar waith diweddar o’i stiwdio ac yn dathlu’r broses artistig.
“Mae hyn am fy mywyd a’m profiad. Beth sydd wedi digwydd i mi. Beth yw fy mhrofiad. Beth arall sydd yna?” meddai.
“Ceisiaf wneud i bethau weithio.
“Mae hefyd yn fater o dalu teyrnged.”
- Bydd yr arddangosfa yn Storiel tan ddiwedd y flwyddyn.