Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi ymateb yn chwyrn i Elin Jones, Llywydd y Senedd ac Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Geredigion, ar ôl iddi amddiffyn taith Mark Drakeford i Qatar.

Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru, Ysgrifennydd yr Economi Vaughan Gething, a’r Gweinidog Chwaraeon Dawn Bowden deithio i’r wlad wrth i dîm pêl-droed Cymru gystadlu yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Ond mae ei ymweliad wedi denu beirniadaeth, gan rai sy’n cynnwys Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, a Syr Ed Davey, sy’n arwain y blaid yn y Deyrnas Unedig.

Ceisiodd Elin Jones amddiffyn ymweliad Mark Drakeford ar Twitter gan ddweud mai “dyma’r peth iawn”.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gau eu swyddfa yn Qatar ynghylch pryderon am hawliau dynol yn y wlad.

Mae’r Blaid Lafur yn y Deyrnas Unedig wedi cytuno i beidio â mynd yn sgil pryderon am y ffordd mae adeiladwyr wedi cael eu trin, ac agweddau’r wlad tuag at briodasau a pherthnasau o’r un rhyw.

Gwyngalchu record hawliau dynol Qatar

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bod Mark Drakeford mewn perygl o gyfrannu at wyngalchu record hawliau dynol affwysol Qatar, ac er na ddylai fod boicot gan dimau cenedlaethol, mae dyletswydd ar wleidyddion i gadw draw.

Yn ôl Mynegai Democratiaeth y Byd Uned Cudd-wybodaeth yr Economegydd, mae Qatar yn safle rhif 126 allan o 167 o genhedloedd o ran hawliau dynol, gan wneud y wlad yn “gyfundrefn awdurdodaidd”.

Mae’r wlad hefyd yn perfformio’n wael ar hawliau merched, gyda system warcheidiaeth wrywaidd yn dal i fod yn ei lle sy’n golygu bod angen caniatâd gwarcheidwad gwrywaidd o hyd ar y rhan fwyaf o fenywod i gyflawni tasgau bob dydd.

Mae Qatar hefyd wedi cyrraedd y penawdau yn ystod y blynyddoedd diwethaf ynghylch eu defnydd honedig o fudwyr tramor ar gyfer llafur caethweision, gan gynnwys adeiladu stadiymau ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar, a gafodd ei alw’n fath o “gaethwasiaeth fodern” gan Amnest Rhyngwladol.

Bu farw rhai o’r gweithwyr hyn yn ddiweddarach.

‘Pwynt cenedlaetholgar rhad’

Wrth ymateb i Elin Jones, dywed Mark Williams, cyn-Aelod Seneddol Ceredigion y Democratiaid Rhyddfrydol, ei bod hi’n “siomedig na all gwleidyddion o bob plaid ddod at ei gilydd ar y mater hwn”.

“Mae Ceredigion yn gartref i Brifysgol Aberystwyth a’i hadran Cysylltiadau Rhyngwladol ac mae llawer o bobol yn lleol yn poeni’n fawr am hawliau dynol,” meddai.

“Nid yn unig roedd sylwadau Elin Jones yn anghywir – does neb wedi galw ar dîm Cymru i foicotio’r digwyddiad, dim ond boicot diplomyddol gan wleidyddion, ond mae canolbwyntio ar ble mae Ed Davey yn byw yn bwynt cenedlaetholgar rhad.

“Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol bob amser yn sefyll dros hawliau dynol a rhyddid, ac yn gwneud hynny heb gywilydd.

“Mae’n anffodus nad yw Plaid Cymru yn teimlo y gallen nhw wneud yr un peth y tro hwn yn achos Qatar.”

Annog gweinidogion Llywodraeth Cymru i beidio â mynd i Qatar

Mae disgwyl i Mark Drakeford, Vaughan Gething a Dawn Bowden deithio i’r wlad yn ystod Cwpan y Byd, lle bydd Cymru’n cystadlu am y tro cyntaf ers 1958