Mae disgwyl i Gyngor Wrecsam gynnig Rhyddfraint Dinas Wrecsam i Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

Mae’r Cyngor yn bwriadu rhoi’r statws i sêr Hollywood am yr effaith maen nhw wedi’i chael ar Wrecsam ers iddyn nhw brynu’r clwb pêl-droed.

Bydd y cynnig yn cael ei gyflwyno yn ystod cyfarfod Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam ddydd Mawrth (Tachwedd 8), i gydnabod hanes hir a balch y clwb a dylanwad y ddau berchennog wrth helpu i hyrwyddo Wrecsam ledled y byd.

Pe bai cydsyniad, bydd yr argymhelliad yn cael ei gyflwyno i’w ystyried gan y Cyngor llawn ym mis Rhagfyr.

“Pêl-droed yw curiad calon ein cymuned, ac fe fu yna angerdd a chefnogaeth anhygoel i’r clwb erioed,” meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, arweinydd Annibynnol Cyngor Wrecsam.

“Mae gennym ni stori anhygoel yma yn Wrecsam, ynghyd â chymeriad a hunaniaeth unigryw sy’n ennyn cefnogwyr ledled y byd.

“Mae’r ddau actor Hollywood hyn wedi cael effaith anhygoel ar y clwb pêl-droed a’r gymuned, ac wedi helpu i roi Wrecsam ar y llwyfan byd-eang.

“Allech chi ddim dymuno cyfarfod â dau o bobol fwy hyfryd – maen nhw wir yn ddau foi hyfryd sydd wedi ymroi â’u calonnau a’u heneidiau i’r ddinas hon, ac mae hi’n teimlo fel yr adeg iawn i siarad am sut rydyn ni’n cydnabod hynny.”

‘Pêl-droed yn ein gwaed’

“Mae pêl-droed yn ein gwaed yn Wrecsam, ac mae hynt a helynt y clwb wedi cael effaith enfawr ar ein cymuned erioed,” meddai’r Cynghorydd David A Bithell, dirprwy arweinydd Annibynnol Cyngor Wrecsam.

“Rydyn ni’n byw ac yn mwynhau amserau cyffrous iawn, ac rwy’n falch fod y cynnig hwn yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Gweithredol.

“Mae’r perchnogion yn ein helpu ni i hyrwyddo Wrecsam ledled y byd fel lle i ymweld ag o, ac mae angen i ni feddwl am sut rydyn ni’n cydnabod hynny.

“Mae eu heffaith ar ein cymuned ni wedi bod yn aruthrol.”

Cwestiynu amseru’r cynnig

Er bod y cynnig wedi cael ei drafod ar draws sbectrwm gwleidyddol y Cyngor, mae rhai cwestiynau wedi codi ynghylch yr amseru.

Bydd yr awdurdod yn penderfynu ar gais cynllunio’r clwb ar gyfer eisteddle newydd y Kop yr wythnos nesaf, y diwrnod cyn cyfarfod y Bwrdd Gweithredol.

“Mae dyfarniad dinesig Rhyddfraint y Ddinas sy’n cael ei chynnig i Glwb Pêl-droed Wrecsam a’r perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn rywbeth sydd wedi’i drafod ag arweinwyr grwpiau a’r Maer dros y bythefnos ddiwethaf,” meddai’r Cynghorydd Dan Davies, arweinydd y Grŵp Llafur, a’r Cynghorydd Marc Jones, arweinydd Grŵp Plaid Cymru, mewn datganiad ar y cyd.

“Y wobr ddinesig hon yw’r wobr anrhydedd fwyaf y gall y Bwrdeistref Sirol ei rhoi, a chaiff ei dyfarnu fel arfer am wasanaeth neu gyflawniad rhagorol sy’n gysylltiedig â Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac felly penderfyniad i’r Cyngor llawn yw hwn.

“Roedd cydsyniad trawsbleidiol na ddylid trafod hyn na’i gyhoeddi cyn y cais cynllunio ar gyfer y Kop ar y Cae Ras, a fydd yn cael ei drafod yn y pwyllgor ar ddydd Llun, Tachwedd 7.

“Roedden ni i gyd yn teimlo y byddai’n amhriodol cyhoeddi unrhyw gynnig ynghylch y clwb a’r perchnogion cyn hynny gan y gallai gael ei ystyried fel cael dylanwad amhriodol ar y broses gynllunio.

“Yn anffodus, cafodd y cydsyniad trawsbleidiol hwnnw ei dorri gan arweinydd y Cyngor – does dim rheswm da i hyn fynd gerbron y Pwyllgor Gweithredol.

“Mae’n fater i’r Cyngor llawn benderfynu arno yn y cyfarfod nesaf ar Ragfyr 21.

“Byddai’n amhriodol gwneud sylw pellach ar hyn o bryd.”

Fe wnaeth y Cynghorydd Hugh Jones, arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr sy’n aelod o’r Bwrdd Gweithredol fel aelod tros Le ac Amgylchedd, wrthod gwneud sylw ar hyn o bryd pan gafodd ei holi gan y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol.