Mae Matthew Maynard wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd i barhau’n brif hyfforddwr tîm criced Morgannwg yn y Bencampwriaeth, ond mae’r clwb yn bwriadu hysbysebu am brif hyfforddwr newydd ar gyfer gemau undydd.

Mae disgwyl i’r clwb hysbysebu’r rôl yn y dyfodol agos, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n “croesawu ceisiadau gan ystod eang o ymgeiswyr”.

Fe wnaeth Morgannwg orffen yn drydydd yn ail adran y Bencampwriaeth eleni o dan arweiniad y prif hyfforddwr 56 oed, gan golli allan ar ddyrchafiad o naw pwynt ar ôl gêm ola’r tymor.

Ond mae e wedi treulio cyfnodau sylweddol i ffwrdd o’r clwb dros y ddau dymor diwethaf, wrth ganolbwyntio ar ei ddyletswyddau gyda thîm hyfforddi’r Tân Cymreig yn y gystadleuaeth Can Pelen, gyda’r is-hyfforddwr David Harrison yn bennaf gyfrifol am y tîm mewn gemau undydd.

Matthew Maynard
Matthew Maynard

“Dw i wrth fy modd yn cael parhau â’r gwaith rydan ni wedi’i wneud dros y tair blynedd dwytha’ yn y gêm pedwar diwrnod,” meddai Matthew Maynard.

“Er fy mod i’n mwynhau hyfforddi’r timau undydd, dw i’n parchu’n llwyr y penderfyniad a wnaed gan y clwb i hollti dyletswyddau’r prif hyfforddwr, ac fel bob amser mi fydda i’n gwneud fy ngorau dros Forgannwg.

“Bydd cael y cyfrifoldeb am y tîm pêl goch yn unig yn fy ngalluogi i ganolbwyntio fy ymdrechion, a gobeithio fedrwn ni fynd cam ymhellach y flwyddyn nesaf a sicrhau dyrchafiad i’r Adran Gyntaf.

“Mae gennon ni garfan dalentog mae’n bleser gweithio hefo nhw, a fedra i ddim aros i gael cychwyn efo nhw eto dros y gaeaf.”

‘Deinameg yn wahanol’

“Bydd y ddeinameg hefo’r prif hyfforddwr newydd yn rywbeth gwahanol, a gobeithio gawn ni’r cymeriad cywir i mewn i ffitio hefo’r diwylliant a’r amgylchedd rydan ni wedi’i greu dros y blynyddoedd, ond mae’n gyffrous iawn a dw i’n edrych ymlaen at drafod strategaeth a thactegau, a gweithio hefo nhw fel y medrwn ni gael y canlyniadau gorau dros y tair fformat i’r clwb,” meddai wedyn.

Ac yntau wedi bod yn brif hyfforddwr rhwng 2008 a 2010, dychwelodd Matthew Maynard i’r sir yn niwedd 2017 yn ymgynghorydd batio, cyn cael ei enwi’n brif hyfforddwr dros dro ar gyfer tymor 2019.

Gorffennodd Morgannwg yn bedwerydd yn y Bencampwriaeth y flwyddyn honno, ac fe lofnododd e gytundeb tair blynedd i fod yn brif hyfforddwr.

Mae e hefyd wedi treulio cyfnod yn is-hyfforddwr gyda Lloegr, gan ennill Cyfres y Lludw yn 2005, yn ogystal â thair blynedd yn Gyfarwyddwr Criced Gwlad yr Haf, a chyfnod yn brif hyfforddwr y Nashua Titans, gan ennill y gystadleuaeth pedwar diwrnod a’r gystadleuaeth ugain pelawd yn ei dymor cyntaf gyda nhw.

Ond dydy Morgannwg ddim wedi cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol cystadleuaeth undydd ers iddyn nhw gyrraedd Diwrnod y Ffeinals y gystadleuaeth ugain pelawd yn 2017, dwy flynedd cyn i Matthew Maynard ddychwelyd i’r clwb.

‘Gwaith rhagorol’

“Mae Matt wedi gwneud gwaith ardderchog mewn criced pêl goch, lle rydyn ni wedi gweld gwelliant mawr yn ein perfformiadau dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n dda ein bod ni’n gallu cadw ei brofiad a’i arbenigedd i’n symud ni yn ein blaenau yn y fformat yna,” meddai’r Cyfarwyddwr Criced Mark Wallace.

“Mae’n dymor hir iawn gyda llawer o griced, ac rydyn ni’n credu y bydd hollti’r rôl yn galluogi’r hyfforddwyr i aros yn ffres ac i ganolbwyntio ar ofynion gwahanol y fformatiau gwahanol yn y gêm.”

Wrth siarad â BBC Cymru, ychwanegodd fod croeso i David Harrison ymgeisio ar gyfer y swydd, ac y byddai’n “ymgeisydd da”, ond fod disgwyl i hyfforddwyr o Gymru, Lloegr ac ar draws y byd i wneud cais.