Mae disgwyl i eisteddle newydd y Kop ar y Cae Ras, stadiwm Clwb Pêl-droed Wrecsam, gael caniatâd cynllunio.

Bydd cais gan y clwb i adnewyddu’r Kop fynd gerbron pwyllgor cynllunio Cyngor Wrecsam ddydd Llun (Tachwedd 7).

Mewn adroddiad fydd yn cael ei ddarllen gan gynghorwyr ar y pwyllgor, mae swyddogion cynllunio’r awdurdod wedi argymell bod y datblygiad yn cael mynd yn ei flaen.

Pe bai’n llwyddiannus, byddai’r hen Kop yn cael ei ddisodli gan eisteddle newydd i 5,500 o bobol fydd hefyd yn cynnwys lolfa letygarwch, swyddfa a gofod manwerthu i’r clwb, ynghyd â chyfleusterau ar gyfer Ymddiriedolaeth Gymunedol Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Byddai’n golygu bod pob un o bedair ochr y stadiwm yn dod yn ôl i ddefnydd am y tro cyntaf ers 2008.

Pryderon

Mae Cyngor Cymuned Offa wedi codi pryderon ynghylch parcio yn yr ardal ar ddiwrnodau gemau, gyda thrwyddedau parcio i drigolion lleol a chynlluniau parcio a theithio’n cael eu cynnig fel ffyrdd o leddfu unrhyw broblemau.

Mae pryderon eraill yn cynnwys yr effaith y gallai ychwanegu cyfleusterau lletygarwch a gofod arddangosfeydd ei chael ar lefelau ffosffad yr afon gerllaw.

Y llynedd, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru dargedau newydd i leihau lefelau ffosffad mewn afonydd mewn ardaloedd o gadwraeth arbennig ledled Cymru.

Roedd hyn yn dilyn pryderon am gynnydd mewn lefelau ffosffad, sy’n gallu achosi llygredd dŵr, yn afonydd y wlad.

Tra bod Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol yn cydweithio i geisio dod o hyd i ateb i’r broblem, mae nifer o geisiadau cynllunio lleol wedi’u gwrthod yn ddiweddar am resymau’n ymwneud â ffosffad, o ganlyniad i ba mor agos ydyn nhw at Afon Dyfrdwy.

Pe bai cais y Kop yn cael caniatâd, un amod tebygol yw fod yn rhaid i’r clwb pêl-droed barhau i gynnal trafodaethau â Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Adroddiad cynllunio

“Mae’r datblygiad sydd wedi’i gynnig yn golygu cryn fuddsoddiad yn y Cae Ras,” meddai adroddiad gan adran gynllunio Cyngor Wrecsam.

“Byddai’n gwella ymddangosiad y safle ac yn gwella’r cyfleusterau sy’n cael eu cynnig gan y Cae Ras ar gyfer pêl-droed a digwyddiadau eraill, gan godi proffil Clwb Pêl-droed Wrecsam a Dinas Wrecsam ar y cyfan.

“Yn amlwg, mae’r cynnig hwn o gryn bwysigrwydd i’r cyhoedd.

“Rydym yn cydnabod y byddai’r datblygiad arfaethedig yn cynyddu capasiti presennol y stadiwm bresennol.

“Fodd bynnag, mae’n golygu disodli’r eisteddle sydd yno ar hyn o bryd, sydd allan o ddefnydd ar hyn o bryd.

“Mae hawliau cyfreithiol yn perthyn i’r eisteddle sydd yno ar hyn o bryd a gellid ei hailwampio a dod â hi’n ôl i ddefnydd heb fod angen caniatâd cynllunio.

“Byddai hyn yn arwain at gapasiti gwylwyr cymharol ar y Cae Ras i’r hyn sy’n deillio o’r cynnig presennol.

“Ar y sail yma, byddai effaith y datblygiad arfaethedig yn nhermau parcio a chreu traffig ac yn nhermau sŵn ac anghyfleustra, yn cymharu’n ffafriol ar y cyfan ag effaith ailwampio’r eisteddle sydd yno ar hyn o bryd, ar wahân i ofod digwyddiadau na fyddai ar gael ar ddiwrnodau gemau.

“Fyddai eisteddle’r Kop ei hun ddim yn arwain at gynnydd sylweddol mewn rhyddhau ffosffadau i Afon Dyfrdwy ac Ardal Gadwraeth Arbennig Llyn Tegid.

“Yn ddibynnol ar ganlyniad ymgynghoriad pellach â Chyfoeth Naturiol Cymru, mae’n bosib y bydd angen amod er mwyn cyfyngu ar y defnydd o ofodau hyd nes bod cynllun i leihau ffosffadau’n gallu cael ei sicrhau.

“Yn ddibynnol ar y materion hyn yn cael eu trin a’u trafod mewn modd boddhaol, mae’r datblygiad yn cydymffurfio â pholisïau Cynllun Datblygu Unigol.”

Bydd y pwyllgor cynllunio yn gwneud penderfyniad ddydd Llun nesaf (Tachwed 7) ynghylch a fyddan nhw’n rhoi’r awdurdod dirprwyol i’r Prif Swyddog Economi a Chynllunio i roi sêl bendith.