Mae Gemma Grainger wedi cyhoeddi carfan bêl-droed merched Cymru ar gyfer eu gêm yn erbyn y Ffindir yn Sbaen.
Yr un 26 o chwaraewyr sydd wedi dewis ag a chwaraeodd dros Gymru yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd fis diwethaf, lle daethon nhw o fewn trwch blewyn i gymhwyso am dwrnament am y tro cyntaf erioed.
Bydd eu gêm nesaf yn cael ei chynnal yn Stadiwm Pinatar ar Dachwedd 12, gyda’r gic gyntaf am 6.30yh.
Dyma’r tro olaf i’r garfan ymgynnull eleni, ar ddiwedd blwyddyn pan wnaethon nhw chwarae gerbron torf o 15,200 yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis diwethaf.
Y garfan
Laura O’Sullivan (Caerdydd), Olivia Clark (Bristol City), Safia Middleton-Patel (Man U), Rhiannon Roberts (Lerpwl), Josie Green (Leicester City), Hayley Ladd (Man U), Gemma Evans (Reading), Rachel Rowe (Reading), Lily Woodham (Reading), Sophie Ingle (Chelsea), Anna Filbey (Crystal Palace), Angharad James (Spurs), Georgia Walters (Sheffield United), Charlie Estcourt (Birmingham City), Jess Fishlock (OL Reign), Carrie Jones (Leicester City – ar fenthyg o Man U), Ffion Morgan (Bristol City), Megan Wynne (Southampton), Elise Hughes (Crystal Palace), Kayleigh Green (Brighton & Hove Albion), Helen Ward (Watford), Ceri Holland (Lerpwl), Maria Francis-Jones (Sheffield United – ar fenthyg o Manchester City), Chloe Williams (Blackburn – ar fenthyg o Man U), Morgan Rogers (Watford), Chloe Bull (Bristol City).