Mae’r sylwebydd chwaraeon Nic Parry yn dweud bod S4C “wedi cael ei hadnabod fel y go-to ar gyfer chwaraeon” ers dyddiau cynnar y sianel, a’u bod nhw “wedi gwerthfawrogi bod darlledu chwaraeon yn golygu bod yna bobol yn gwylio”.
Fe fydd e’n aelod o’r tîm sylwebu fydd yn dod â holl gemau pêl-droed Cymru yn fwy o Gwpan y Byd yn Qatar, 64 o flynyddoedd ers y tro diwethaf i’n tîm cenedlaethol gyrraedd Cwpan y Byd pan gafodd eu hymgyrch fawr ddim sylw yn y cyfryngau.
Ers dyddiau cynnar Sgorio yn niwedd yr 1980au, mae’n teimlo bod S4C wedi manteisio ar apêl chwaraeon er mwyn sicrhau ei llwyddiant fel sianel.
“Ffigurau, ffigurau, ffigurau. Dyna, ar ddiwedd y dydd, sy’n bwysig,” meddai wrth golwg360 ar ben-blwydd S4C yn 40 oed.
“Ac o’r cychwyn cynta’n deg, mae S4C wedi gwerthfawrogi bod darlledu chwaraeon yn golygu bod yna bobol yn gwylio S4C.
“Mae o’n wir nawr ar y pen-blwydd yn 40 yn fwy nag erioed, mae yna gannoedd ar gannoedd o filoedd yn gwylio pêl-droed ar S4C, ac mae’r cyfraniad hwnnw at lwyddiant ffigurau’r sianel yn anferth.”
“Gweledigaeth” y dyddiau cynnar
Ond pa mor bwysig, tybed, oedd chwaraeon i’r sianel yn 1982, a sut dderbyniad gafodd y darllediadau cynnar hynny?
“Tro di’r cloc yn ôl ddeugain mlynedd, ac roedd chwaraeon yn bwysig bryd hynny,” meddai.
“Y feirniadaeth ar y cychwyn oedd, ‘sianel i’r elit dosbarth canol‘ a be’ wnaeth S4C? Troi at chwaraeon a dangos reslo reit o’r cychwyn, felly fyddai neb yn gallu dweud bod hwnnw ar gyfer elit dosbarth canol!
“Dyna’r enghraifft ohonyn nhw’n defnyddio chwaraeon i wneud pwynt, ond hefyd i ddenu cynulleidfa go wahanol.
“Fi oedd yn sylwebu ar reslo, ac roeddet ti’n cyflwyno pobol fatha Naughty Nicky Monroe a Klondike Kate i gynulleidfa Gymraeg yn Gymraeg – a’r cyfan efo’r nod o gynyddu niferoedd ond hefyd i ehangu ystod y gynulleidfa.
“Mae’r cyfan yn mynd yn ôl i weledigaeth pobol fatha Deryk Williams, Don Llewellyn, Dafydd Recordiau Cob yn Port, Robin Ifans…
“Wnaeth rhain weld fel y byddai chwaraeon yn gallu, nid yn unig cynyddu hyder y genedl yn y Gymraeg – ac roedd hynny yn allweddol bwysig – ond mi wnaethon nhw weld hefyd fod o’n mynd i roi credibility i S4C fel darlledwr go iawn.
“Mi gychwynnodd o fel yr unig le, bron iawn, lle roedd modd gweld pêl-droedwyr gorau’r byd yn yr 80au a’r 90au, yn bell cyn bod sianeli eraill yn cael dangos nhw, a ddaru hynny wneud daioni mawr i S4C.”
O gampau byd-eang i bêl-droed yng Nghymru
Yn wahanol iawn i ddod â Michael Laudrup, Diego Maradona, Hristo Stoichkov, Ronald Koeman a’u tebyg i’r sgrîn yng nghartrefi Cymru, fe wnaeth S4C a rhaglen Sgorio droi maes o law at ddangos gemau pêl-droed domestig Cymru.
Ydy hynny, tybed, yn dangos bod hyder y genedl yn ei byd chwaraeon ei hun wedi cynyddu?
“Wrth i [ddarlledu gemau pêl-droed Ewropeaidd] gael ei golli, mi wnaethon nhw wedyn sicrhau bod y gemau rhyngwladol yn parhau i gael eu dangos yn fyw,” meddai Nic Parry wedyn.
“Mae S4C, wrth gwrs, wedi bod yn ffodus bod eu hawliau nhw wedi cyd-fynd â chyfnod mor llwyddiannus.
“Ond wedyn, maen nhw’n ei gynnig o yn Gymraeg ac mae’r ffaith bo nhw nawr yn fodlon dangos y gynghrair genedlaethol, ac mae hyd yn oed y ffigurau yma o gymharu â llawer iawn o raglenni yn uchel, i gyd wedi dod o un peth sydd wedi bod yn gyson dros y 40 mlynedd.
“Mae chwaraeon wastad wedi bod yno, ac mae’r sianel wedi cael ei hadnabod fel y go-to o ran chwaraeon.”
Cwpan y Byd – 1958 a 2022
Wrth i sylw cefnogwyr pêl-droed ym mhedwar ban droi at Gwpan y Byd fis nesaf, fe ddaw’n amlwg cymaint mwy o sylw fydd i’r gystadleuaeth yng Nghymru nag a fu yn 1958.
Mae straeon lu wedi’u hadrodd yn ddiweddar am ddiffyg ymwybyddiaeth y Cymry fod ein tîm cenedlaethol yn cystadlu yn y gystadleuaeth 66 o flynyddoedd yn ôl.
Ond y tro hwn, nid yn unig y bydd yr holl gemau’n cael eu darlledu, ond byddan nhw ar gael i’w gwylio yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed.
“Mae honna’n stori ryfeddol,” meddai Nic Parry.
“Dydi hi ddim yn ormodiaith dweud, doedd pobol Cymru ddim yn gwybod fod tîm Cymru yno [yn 1958], nifer fawr ohonyn nhw ddim yn gwybod.
“Dyna fel mae darlledu, ysgrifennu yn ogystal â radio, ac wedyn teledu wedi datblygu mor ddramatig, bod rhywbeth mor anferth â hynny yn gallu mynd heibio heb i bobol wybod.
“Mor wahanol ydi hi nawr, a fuodd yna ddim adeg erioed pan oedd yna gymaint o gyfle i dynnu sylw at rywbeth, ac unwaith eto mae S4C yn mynd i gael sylw yr un fath ag y mae Cymru yn mynd i gael sylw, ac mae S4C yn mynd i elwa eto.
“Ond mae’n bwysig dweud eu bod nhw’n elwa oherwydd bo nhw wedi bod yn driw ac yn ffyddlon i’r arlwy chwaraeon.
“Maen nhw wedi dangos i bobol bod yna fodd dangos y chwaraeon gorau yng Nghymru.
“Maen nhw wedi dangos bod modd cael arbenigwyr gyda’r gorau sydd yn siarad Cymraeg.
“Mae o wedi taflu golau ar faint o bobol ym myd chwaraeon, rygbi, pêl-droed, merched, bechgyn sy’n gallu siarad Cymraeg.
“Mae o wedi bod yn hwb i’r sianel ond mae o wedi bod yn hwb anferth i’r iaith hefyd.”
Cymraeg yn iaith chwaraeon
Wrth ddatblygu darlledu chwaraeon yn y Gymraeg, roedd hi’n anochel y byddai’n rhaid datblygu termau ac ieithwedd chwaraeon hefyd.
Yn ôl Nic Parry, “mi oedd o bron iawn yn broses o addysgu”.
“Bydda i nawr – a dw i wedi bod yn brysur iawn yn ystod y misoedd diwethaf, ac yn bennaf yn gallu gwneud oherwydd Zoom ac yn y blaen – yn siarad efo plant ysgol, oherwydd mae pob un ysgol i weld yn cynnal prosiect ar Qatar ac ar Gwpan y Byd,” meddai.
“Mae o mor wych i gyflwyno Cymru ac i gyflwyno’r Gymraeg i blant ysgol, a dw i wedi siarad â phlant ac fe fydda i’n taflu termau – off-side, linesman, referee, penalty – ac maen nhw’n gallu poeri’r termau Cymraeg allan yn syth.
“Mae Cymraeg wedi dod yn iaith chwaraeon, ac mae S4C wedi cyfrannu’n aruthrol at hynny.”
Ar drothwy Cwpan y Byd, sut mae Nic Parry yn teimlo am obeithion Cymru yn Qatar, wrth iddyn nhw herio’r Unol Daleithiau, Lloegr ac Iran yn eu grŵp gan obeithio am le yn y rowndiau terfynol.
“Dw i’n mynd allan i sylwebu, mi fydda i’n sylwebu ar bob un o gemau Cymru a bydda i’n gadael pan fydd chwaraewyr Cymru’n gadael,” meddai.
“Dw i wedi bwcio mis o wyliau yn optimistig iawn.
“A dw i’n hanner gobeithio – ac ychydig bach mwy – y gallwn i fod allan yno am o leiaf dair wythnos!”