Mae Dr Angelina Sanderson Bellamy yn Ddarlithydd Cyswllt Systemau Bwyd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste, ac yn gyd-arweinydd y prosiect UKRI AgriFood4NetZero Network+ newydd. Cyn hynny, roedd yn Uwch Gymrawd Ymchwil a Deon Cyswllt Cynaliadwyedd Amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Barbora Adlerova yn ymchwilydd doethurol yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd.


Mae newid hinsawdd, argyfwng iechyd byd-eang ac argyfwng costau byw yn achosi bygythiadau enbyd i bobol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang. Yng Nghymru, mae mentrau bwyd cymunedol llawr gwlad yn llygedyn o obaith yn y broses o leihau effeithiau’r holl argyfyngau a chreu cymunedau lleol mwy cydnerth.

Mae Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned (CSA) yn fodel amaethecolegol o gynhyrchu bwyd ar raddfa fach sydd â chynhyrchwyr, defnyddwyr a’r blaned wrth eu gwraidd. Maent yn gweithio gyda natur i gynhyrchu bwyd mewn ffordd sy’n hybu bioamrywiaeth, yn meithrin iechyd y pridd, ac yn crynhoi mwy o ddŵr, sy’n hollbwysig yn ystod cyfnodau o sychder ac o law trwm. Mae ganddynt agwedd deg at fwyd, gyda chynhyrchwyr a defnyddwyr yn gweithio gyda’i gilydd fel partneriaid yn y system fwyd. Mae’r partneriaethau’n rhan o’r gymuned lle caiff y llysiau eu tyfu, ac maent yn awyddus i sicrhau bod y cynnyrch ar gael i BAWB yn y gymuned, nid dim ond y rhai sy’n gallu eu fforddio.

Pwysleisiodd argyfwng Covid-19 y ffactorau risg sy’n gysylltiedig â deiet gwael a gwaethygodd flynyddoedd o ddiffyg diogelwch bwyd cynyddol. Ein hymateb oedd lansio’r prosiect Accessible Veg yng ngwanwyn 2021. O dan y prosiect, soniodd rhai o’r partneriaethau CSA nad oedd rhai o’r aelodau’n gallu parhau i dalu am fagiau o lysiau, a’u bod yn gwneud trefniadau gwahanol gyda’r aelodau hyn fel eu bod yn gallu parhau i gael bag wythnosol o lysiau iach a ffres.

“Fe wnaethon ni ddatblygu cronfa gymunedol sy’n ganolbwynt i elfen hygyrchedd y cynllun. Trwy hyn rydym wedi cynnwys aelodau mewn digwyddiadau codi arian, ac mae nhw’n helpu i lunio, trefnu a rhedeg y digwyddiadau.”

Slade Farm Organics

Roedd y grwpiau CSA yn awyddus i weithio gyda ni eto i gydgynhyrchu modelau undod a fyddai’n eu galluogi nhw i gynnig bagiau llysiau wythnosol i’r aelwydydd heb ddiogelwch bwyd yn eu cymunedau. Mae sefydliadau sy’n defnyddio modelau undod yn rhoi materion cymdeithasol ac amgylcheddol wrth wraidd eu busnes, gan eu blaenoriaethu dros wneud yr elw mwyaf posibl.

Yn seiliedig ar ymchwil gan Accessible Veg, mae partneriaethau CSA yn cynnig buddion allweddol heblaw bwyd i’w cymunedau trwy gysylltu pobl â’i gilydd ac â’r bwyd maen nhw’n ei fwyta, lle cafodd ei dyfu a’r bobl sy’n ei dyfu. Gwelodd yr aelwydydd a ymunodd â phartneriaeth CSA, ac a gafodd fag wythnosol o lysiau am ddim, well mesuriadau o lesiant a diogelwch bwyd:

“Mae wedi annog y plant, yn amlwg, i fwyta mwy o lysiau ac maen nhw’n gyffrous i weld beth sy’n cyrraedd ar ddydd Iau […] Maen nhw’n gyffrous iawn i flasu pethau newydd […] ac maen nhw wedi bod eisiau dod i wirfoddoli ar y fferm hefyd, felly dyna beth wnaethon ni.”

Aelod o bartneriaeth CSA

Mae’r partneriaethau’n creu’r holl fuddion hyn heb gymorth y cymorthdaliadau gan lywodraethau a dderbyniwyd yn draddodiadol gan ffermydd eraill, mwy o faint. Rydym bellach yn wynebu argyfwng costau byw, sy’n creu mwy o bwysau ariannol ac yn dwysáu’r anghydraddoldeb llesiant rhwng aelwydydd. Gall y partneriaethau chwarae rhan uniongyrchol yn eu cymunedau er mwyn cynorthwyo’r holl aelwydydd i allu cael bwyd, gan ei wneud yn hygyrch yn gorfforol ac yn ariannol trwy ddatblygu modelau undod.

Felly mae gan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yng Nghymru gyfle i gael effaith gymdeithasol a all effeithio’n gadarnhaol ar iechyd, diogelwch bwyd, llesiant a chynaliadwyedd. Ar hyn o bryd, mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn bwriadu ariannu dim ond y ffermydd sy’n defnyddio mwy na thri hectar i gynhyrchu. Byddai hyn yn eithrio llawer o gynlluniau CSA, sydd yn aml yn gweithredu ar lai na thri hectar.

Dangosodd gwerthusiad o astudiaeth beilot a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Synnwyr Bwyd Cymru fod buddsoddiad ar raddfa fach yn gallu cael effaith sylweddol a chadarnhaol ar fusnesau garddwriaeth, gan gynyddu gwerthiannau llysiau 74.5% ar gyfartaledd. Ar sail y cynllun peilot hwn, mae Synnwyr Bwyd Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu cynllun grant seilwaith newydd ar gyfer garddwriaeth ar raddfa fach yng Nghymru a fyddai’n helpu i gyflymu twf y sector ac yn arwain at werthu mwy o lysiau ledled Cymru.

Rydym yn ategu’r alwad hon am gymorth ac yn ychwanegu’r argymhellion canlynol:

● Defnyddio talebau Cychwyn Iach ar gyfer bagiau o lysiau a mwy o brosiectau peilot yn y dyfodol sy’n rhyng-gysylltu iechyd, y gymuned, yr amgylchedd ac amaethyddiaeth.

● Cydgysylltu ac ariannu cysylltiadau â pholisïau presennol y Llywodraeth. Er enghraifft, defnyddio arian Llywodraeth Cymru a glustnodwyd ar gyfer lleddfu tlodi i gefnogi modelau undod bwyd yn y gymuned neu bolisïau sy’n gysylltiedig â Strategaeth Bwyd Cymunedol Llywodraeth Cymru.

● Ymrwymiad i ariannu cymorth hirdymor i fentrau yn y gymuned ac i feithrin cysylltiadau cyson a chryfach â pholisïau presennol y Llywodraeth.

● Cymorth ac arian ar gael i bobl sy’n agored iawn i niwed, yn aml yn gysylltiedig â thlodi. Gall rhagnodi cymdeithasol a thalebau bwyd y gellir eu defnyddio ar gyfer aelodaeth o bartneriaeth CSA fynd i’r afael â llesiant a diffyg diogelwch bwyd.

Gan fod iechyd y cyhoedd yn fudd cyhoeddus, gellid mynd at gadwyni cyflenwi ar raddfa gymunedol gan ddefnyddio’r egwyddor ‘arian cyhoeddus er budd cyhoeddus’ sydd wedi’i chynnwys yn y Biliau Amaethyddiaeth perthnasol ar draws y Deyrnas Unedig a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015). Gall hyn greu ffynhonnell arian ddiogel a hirdymor i dyfwyr cymunedol, cyflenwyr, dosbarthwyr, a sefydliadau eraill sy’n ymwneud â gwasanaethau darparu bwyd lleol sy’n arwain at well cynaliadwyedd amgylcheddol, yn ogystal â chanlyniadau iechyd cyhoeddus cadarnhaol. Gall yr ymagwedd bolisi hon gefnogi rhanddeiliaid mwy amrywiol i ymwneud â chadwyni cyflenwi ar raddfa gymunedol, gan greu patrymau defnyddio mwy cydnerth sy’n gyson â thargedau polisi iechyd, bioamrywiaeth a sero allyriadau, a buddion eraill heblaw bwyd.

__________________________

Mae’r prosiect Accessible Veg wedi gweithio gyda’r pedair fferm CSA ganlynol:

● Ash and Elm Horticulture, Llanidloes

● Glasbren CSA, Bancyfelin, Caerfyrddin

● Henbant CSA, Clynnogfawr

● Slade Farm Organics, St Brides Major

Dewch o hyd i ffermydd CSA yn eich ardal chi yma.