Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn galw ar ddarparwyr rhwydwaith ffonau symudol i adfer signal ffôn yn Nwyfor Meirionnydd, bythefnos ar ôl i storm fawr daro’r etholaeth bythefnos yn ôl.
Mae pobol sy’n byw yng Nghricieth a Llanystumdwy wedi dweud eu bod nhw heb wasanaeth ffôn symudol a Wi-Fi ers dros bythefnos, gydag ardaloedd eraill hefyd yn dweud eu bod nhw wedi colli cysylltiad rhwydwaith, meddai Aelod o’r Senedd ac Aelod Seneddol yr etholaeth.
Maen nhw’n galw ar holl brif ddarparwyr rhwydwaith i ailddyblu ymdrechion i adfer gwasanaethau ffonau symudol a chadw mewn cysylltiad ag etholwyr am gynnydd y gwaith.
Mae ardaloedd eraill yn yr etholaeth yn adrodd am broblemau parhaus gyda signal symudol, megis Morfa Bychan, Abererch, Chwilog, Rhoslan, Llwyngwril a Beddgelert.
Sefyllfa “gwbl annerbyniol”
“Byth ers i ni gael storm fellt a tharanau ychydig wythnosau yn ôl, mae signal ffonau symudol mewn rhannau o’n hetholaeth wedi cael ei amharu’n ddifrifol, gyda rhai cymunedau fel Criccieth a Phentrefelin yn adrodd eu bod wedi colli gwasanaeth yn llwyr,” meddai Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor.
“Mae etholwyr hefyd yn dweud wrthym am broblemau rhwydwaith ym Mynytho, Chwilog, Y Ffor, Abererch, Rhoslan, Beddgelert a Nanhoron.
“Mae rhai ardaloedd wedi mynd o dderbyn signal 4G llawn i ddim gwasanaeth o gwbl.
“Mae’r sefyllfa’n gwbl annerbyniol, a gallwn ddeall y rhwystredigaeth a deimlir gan bobol leol a busnesau.
“I gymhlethu materion, mae llawer yn ei chael hi’n anodd cael gwybodaeth gan ddarparwyr rhwydwaith.
“Rydym yn galw ar bob darparwr rhwydwaith i ailddyblu eu hymdrechion i adfer signal ffonau symudol i’r cymunedau hyn fel mater o flaenoriaeth.
“Mae’r toriadau gwasanaeth hirfaith hyn yn cael effaith sylweddol ar bobl a busnesau lleol. Dyma’r peth olaf sydd ei angen arnynt. Mae’r aflonyddwch hwn wedi parhau’n ddigon hir.
“Byddwn yn cynnal pwysau ar ddarparwyr rhwydwaith i adfer y signal. Mae hyn yn bwysig er hwylustod personol, hyder yn ein rhwydweithiau ffôn ac ar gyfer busnes.”