Mae ymgyrchydd iaith blaenllaw yn dweud bod sicrhau bod y Gymraeg ar gyfryngau digidol “yr un mor bwysig ag oedd cael sianel deledu” pan oedd Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu drosti hanner can mlynedd yn ôl.

A hithau’n 40 oed heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 1), mae Ffred Ffransis wedi bod yn siarad â golwg360 gan ddweud mai’r “un frwydr” â sefydlu S4C yw hynny.

Ymgyrchodd Cymdeithas yr Iaith yn galed i gael y sianel deledu, gan eu bod nhw am weld y Gymraeg ar gyfrwng modern y teledu.

Rali a phrotestiadau tros y sianel

Dechreuodd y cyfan efo rali fawr wrth ymyl HTV yn 1968.

Aeth y Gymdeithas yn ei blaen i feddiannu ac achosi difrod i stiwdios, dringodd aelodau Cymdeithas yr Iaith fastiau, ac aeth llawer o aelodau’r Gymdeithas i’r llysoedd gyda rhai yn cael dedfryd carchar.

Roedd comisiynau yn 1974 yn datgan y dylai fod yna sianel deledu Gymraeg.

Oherwydd rhwystrau ariannol, cafodd sefydlu’r sianel ei ohirio am flwyddyn ac yn 1977 ailddechreuodd y Gymdeithas yr ymgyrch.

Yn 1979, mewn etholiad, dywedodd pob plaid y bydden nhw’n sefydlu sianel yn Gymraeg.

Cefnodd y Torïaid ar eu haddewid ar ôl eu hethol, ac ailddechreuodd y Gymdeithas weithredu.

Gwrthododd 2,000 o bobol dalu treth deledu mewn protest ac yn 1980, cyhoeddodd Gwynfor Evans, arweinydd Plaid Cymru, ei fwriad i gychwyn ymprydio ymhen tri mis nes bod y llywodraeth yn anrhydeddu eu haddewid o gael sianel Cymraeg.

Wythnos cyn i’r ympryd ddechrau, dywedodd y llywodraeth eu bod nhw’n sefydlu S4C, a dechreuodd y sianel ddarlledu yn 1982.

Ddeng mlynedd wedyn, cafodd papurau’r Cabinet eu cyhoeddi, ac roedd Ysgrifennydd Cymru Nicholas Edwards wedi cynghori’r Prif Weinidog mewn cyfarfod Cabinet y byddai’n anodd iawn rheoli’r sefyllfa yng Nghymru.

Byddai anufudddod sifil ar lefel enfawr pe na baen nhw’n sefydlu sianel Gymraeg, meddai.

Wfftio beirniadaeth

Serch hynny, mae nifer o bobol wedi beirniadu S4C dros y blynyddoedd.

Un feirniadaeth yw fod y newyddion sy’n cael ei ddarlledu ar Newyddion S4C yn Brydeinig iawn.

Dywed Ffred Ffransis, a dreuliodd sawl cyfnod yn y carchar fel rhan o’r ymgyrch dros S4C, ei bod hi’n “rhesymegol be’ mae S4C yn gwneud”.

“Dyw cyfrifoldeb am ddarlledu ddim wedi cael ei ddatganoli i Gymru bellach,” meddai wrth golwg360.

“Mae S4C dan Lywodraeth Llundain, maen nhw’n gorfod cydweithio efo’r BBC sydd yn gorfforaeth Brydeinig.

“Mae S4C yn sefydliad Cymraeg sy’n atebol i’r drefn Brydeinig.”

Beirniadaeth arall yw fod safon yr iaith a rhaglenni yn wael, ond sut mae Ffred Ffransis yn teimlo am hyn?

“Dwi ddim yn gweld gwella safon rhaglenni neu gynnwys rhaglenni, ac yn sicr ddim treigladau S4C, fel y brif flaenoriaeth,” meddai.

“Dwi ddim yn dweud nad yw’r materion sydd wedi cael eu codi o ran ymagwedd Brydeinig S4C ac o ran natur y rhaglenni, nad ydyn nhw ddim yn issues pwysig.

“Maen nhw’n issues pwysig i godi rhwng darlledwyr a gwylwyr.”

‘Y Gymraeg yn ganolog i’r holl gyfryngau modern’

Yn ôl Ffred Ffransis, mae prif flaenoriaeth Cymdeithas yr Iaith “yn union fel oedd o hanner canrif yn ôl”.

“Y Gymraeg yn ganolog i’r holl gyfryngau modern,” meddai.

“Yr ymgyrch fodern sydd wedi cael ei lansio yw sefydlu menter ddigidol Gymraeg, sicrhau bod gan y Gymraeg ei lle ar y cyfryngau digidol.

“Mae mwy o ddiddordeb yn hyn na safon S4C.

“Mae angen meddiannu’r holl gyfryngau diweddaraf.

“Mae angen sicrhau bod y Gymraeg ar y cyfryngau digidol newydd. Gall senedd Cymru wneud hynny.

“Gall menter sicrhau pobol ifanc bod digon o gynnwys Cymraeg ar y cyfryngau digidol.

“Mae’r un mor bwysig nawr ag oedd cael sianel deledu hanner canrif yn ôl, yr un frwydr.

“Sicrhau bod y Gymraeg yn sylfaen i bob cyfrwng modern.”