Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn galw am ddiswyddo Ysgrifennydd Cartref San Steffan yn sgil ei sylwadau am geiswyr lloches.
Roedd Suella Braverman eisoes dan y lach ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei bod hi wedi anfon e-byst o’i chyfeiriad personol o leiaf chwe gwaith, ond mae hi bellach yn cael ei beirniadu ar ôl disgrifio ceiswyr lloches fel rhai sy’n “heidio” i arfordir y Deyrnas Unedig.
Daeth ei sylwadau ddiwrnod yn unig ar ôl i ganolfan brosesu ar gyfer mewnfudwyr yn Dover gael ei fomio â thân.
Yn ôl Jane Dodds, mae perygl y gallai ei sylwadau arwain at drais a rhoi bywydau yn y fantol ac mae hi’n galw ar Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, i weithredu ar unwaith.
“Mae’r Blaid Geidwadol yn hollol ddigywilydd wrth fabwysiadu iaith yr asgell dde eithaf, gan ddangos pa mor bell mae’r blaid wedi disgyn dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai.
“Mae sylwadau Suella Braverman yn warth cenedlaethol fydd yn peryglu bywydau, a dylai Rishi Sunak fod wedi ei diswyddo yn y fan a’r lle pe bai ganddo fymryn o hygrededd.
“Fel rhywun sydd wedi gweithio efo ffoaduriaid ers nifer o flynyddoedd, rwy’n teimlo’n gryf fod rhaid i ni gychwyn efo iaith, yn anad dim pobol ydi’r rhain rydyn ni’n siarad amdanyn nhw nid gorchfygiad, pobol ydyn nhw sydd eisiau adeiladu bywyd iddyn nhw eu hunain a’u teuluoedd, cyfrannu at ein cymdeithas a’n heconomi, a chefnogi eu hunain a’r cymunedau sy’n eu croesawu nhw.
“Mae ymdrechion parhaus i’w gwneud nhw’n annynol drwy nifer o actorion, gan gynnwys rhai yn y cabinet, yn diraddio ein gwlad a phopeth mae’n sefyll drosto.
“Mae’r Deyrnas Unedig rwy’n ei hadnabod a’i charu yn seiliedig ar garedigrwydd a thosturi – trin pobol hefo urddas ydi’r peth lleiaf ddylen ni ei ddisgwyl gan ein llywodraeth.
“Dylid diswyddo Suella Braverman ar unwaith, a dylai’r Blaid Geidwadol ymbellhau oddi wrth ei sylwadau.”