Fe wnaeth cerflunydd sydd wedi gweithio ar gyfresi fel Doctor Who a His Dark Materials, a’i wraig, sicrhau unwaith eto eleni fod dathliadau Calan Gaeaf pentref bach yng Nghwm Afan yn rhai cofiadwy.

Mae Peter Mitchell a’i bartner Donna Watkins-Davies yn byw mewn tŷ oedd yn arfer bod yn gartref i dafarn yr Old Copper House ar Heol Crwys ym mhentref Cwmafan.

Ers rhai blynyddoedd, maen nhw’n trawsnewid eu cartref bob Calan Gaeaf i godi arian at Gronfa Gymunedol y pentref.

Eleni, y thema oedd y gyfres boblogaidd Stranger Things, sy’n serennu Winona Ryder ac sy’n adrodd hanes pentref ffuglennol Hawkins yn nhalaith Indiana yn yr Unol Daleithiau. Mae’n cylchdroi o amgylch digwyddiadau goruwchnaturiol yn y dref a’u heffaith ar drigolion y dref honno.

Fe ddaeth y syniad ar gyfer yr olygfa arbennig ar ôl i Charlotte Galsworthy, y Cynghorydd lleol, alw ar drigolion y pentref i wneud rhywbeth arbennig fel bod Calan Gaeaf yn gofiadwy i’r plant er bod cyfyngiadau Covid-19 yn golygu nad oedd modd iddyn nhw ddilyn eu defodau arferol o guro ar ddrysau.

“Rydyn ni fel pe baen ni’n adeiladu ar y peth bob blwyddyn,” meddai Donna Watkins-Davies wrth golwg360.

“Y flwyddyn gyntaf, fe gawson ni fynwent gyda thaflunydd ar flaen y tŷ, ond doedd e ddim yn wych achos yr hen dywydd gwlyb Cymreig a thrydan!

“Yr ail flwyddyn, symudon ni’r trydan tu fewn a rhoi taflunwyr ar yr holl ffenestri a’r drws ffrynt, a dyna ffefryn y rhan fwyaf o’r pentref, ac wedyn eleni, dw i’n dipyn o ffan o Stranger Things, ac ro’n i wir eisiau rhoi cynnig ar godi Max!

“Siaradais i â ‘mhartner, sy’n gerflunydd golygfeydd sy’n gweithio i 4wood TV & Film ar gynyrchiadau fel Doctor Who a His Dark Materials, ac fe wnaeth y syniad ddechrau magu coesau.

“Rydyn ni’n ryw fath o wthio’n gilydd, yn gweithio’n llawn amser, felly mae’n rhaid i ni ei wneud e yn ein hamser ein hunain (a does gyda ni ddim llawer ohono fe) dros gyfnod o ryw fis, ac mae goleuadau a cherddoriaeth yn cwblhau’r effeithiau terfynol.”

Vecna yn taro deuddeg

Canolbwynt yr olygfa eleni yw’r cymeriad Vecna, dihiryn a bwystfil y gyfres.

Mae’r cymeriad i’w weld yn dal ac yn fawr ar do’r tŷ ac fe gafodd ei ddylunio fel polysculpt â dwylo 3D, cyn cael ei orchuddio â latecs a’i baentio.

“Fe gymerodd e ryw wythnos o nosweithiau i’w orffen,” meddai Donna Watkins-Davies wedyn.

“Roedd ei gael e lan yno’n dipyn o arbrawf ond fe weithiodd e.”

Mae’n dweud bod poblogrwydd yr olygfa eleni wedi bod yn “wallgof”, a bod fideo gafodd ei phostio ar Facebook wedi cael ei gwylio dros 3,000 o weithiau hyd yn hyn.

Mae hi hefyd yn awyddus i ddiolch i’w cymdogion am fod mor gefnogol eto eleni.

“Dw i’n meddwl taw effaith Stranger Things yw e, mae’r rhaglen yn enfawr ymhlith pob oedran, ond rydyn ni’n ceisio cadw’r sgriniau taflunio, yn enwedig ar y drws ffrynt, yn ddiddorol i’r rhai bach.”

Edrych tua’r Nadolig

Ar ôl i’r olygfa Calan Gaeaf gael ei thynnu i lawr, bydd sylw’r pâr yn troi at y Nadolig.

“Unwaith eto, o weithio gyda’r Cynghorydd Charlotte [Galsworthy], cafodd digwyddiad i droi goleuadau’r Nadolig ymlaen yn y pentref ei sefydlu sawl blwyddyn yn ôl, gan ddefnyddio cyfraniadau a digwyddiadau codi arian,” meddai.

“Y llynedd, fe wnaeth e dyfu’n barêd Nadolig gyda Siôn Corn a cheirw hefyd, ac eleni byddwn ni’n anelu i gael gŵyl Nadoligaidd yn y parc.

“Mae’r gronfa hefyd yn cefnogi trigolion sy’n ei chael hi’n anodd, nid dim ond dros dymor y Nadolig a’r rhai sydd ar eu pennau eu hunain dros y cyfnod, gan roi anrheg fach iddyn nhw ei hagor a rhoi gwybod iddyn nhw bod pobol yn y gymuned yn meddwl amdanyn nhw.”

Dathliadau Calan Gaeaf yn tynnu cymuned ynghyd “yn yr hen ffyrdd traddodiadol”

Alun Rhys Chivers

Roedd Charlotte Galsworthy, Cynghorydd Cwmafan, wedi trefnu bws brawychus i’r gymuned gyfan eleni