Mae cynghorydd lleol pentref Cwmafan yng Nghwm Afan yn dweud mai tynnu’r gymuned ynghyd “yn yr hen ffordd draddodiadol” oedd ei gobaith wrth drefnu bws brawychus i ddathlu Calan Gaeaf eleni.

Mae Charlotte Galsworthy, y cynghorydd Llafur lleol, wedi bod yn trefnu digwyddiadau ar achlysuron arbennig yn ei chymuned ers blynyddoedd lawer, ymhell cyn iddi fentro i’r byd gwleidyddol, ond mae hi’n dweud bod ei rôl yn ei galluogi i gynyddu maint y digwyddiadau hynny.

Rhwng 4 o’r gloch a 7.15yh ddoe (dydd Sul, Hydref 30), roedd un o fysus First Cymru wedi cael ei addurno â sgerbydau a chymeriadau’r nos, gan deithio o stryd i stryd ar draws Cwmafan, Bryn ac Oakwood, gan roi’r cyfle i blant gael tynnu eu llun a chael y gymuned gyfan allan ar y strydoedd yn cymysgu a chymdeithasu.

Digwyddiadau o’r fath sy’n gwneud y gymuned yr hyn yw hi, yn ôl Charlotte Galsworthy.

“Beth sy’n gwneud tair cymuned Cwmafan, Bryn ac Oakwood – ers i fi godi’r goeden Nadolig gyntaf ac wedyn sêr cofio – yw bod digwyddiadau’n cysylltu’r gymuned yn yr hen ffyrdd traddodiadol,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n gwneud cymuned yn gymuned, dyna fy nod yn y pen draw, a bod yno i’n gilydd.

“Roeddech chi’n gallu gweld faint o bobol oedd yn siarad â’i gilydd, ac efallai doedden nhw ddim yn ’nabod ei gilydd ond roedd ganddyn nhw ddiddordeb cyffredin, a dyna sut rydyn ni’n cyfathrebu mwy.

“Mae cynifer ohonon ni’n mynd i’r gwaith, yn dod allan ar y dreif tu fa’s i’r tŷ, a ddim yn siarad â’n cymdogion.

“Mae hi’n gymuned gref, ac mae pob cymuned arall yn dilyn Cwmafan.

“Yn y gorffennol, yn y llyfrgell dw i wedi addurno ystafelloedd cyfan yno, ymhell cyn fy amser fel cynghorydd, ac fel mam hefyd.

“Dw i wedi gwneud teithiau cerdded arswyd yn y gymuned pan oedd y plant yn iau, dw i wedi gwneud llawer o bethau ond pan ddes i’n gynghorydd, fe wnes i bethau mwy.

“Es i allan i’r gymuned wedyn fel bod pawb yn cymryd rhan, yr un peth amser Nadolig hefyd.”

Cwmafan

Pentref yng Nghwm Afan yw Cwmafan (Cwmavon, yn ôl rhai), sydd â phoblogaeth rhwng 5,000 a 6,000 a chyfran sylweddol yn Gymry Cymraeg.

Y dref agosaf iddi yw Port Talbot.

Mae peth dryswch ynghylch enw’r pentref, gyda rhai yn dweud mai Cwm Afon yw’r tarddiad, ond eraill yn ei gysylltu â Sant Afan Buellt o’r chweched ganrif, a hwnnw’n gefnder i Ddewi Sant.

Mae nifer o enwogion yn gysylltiedig â’r pentref, gan gynnwys William Abraham – neu Mabon – un o arweinwyr pennaf glowyr de Cymru.

Fe oedd Llywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru ac Aelod Seneddol y Rhondda yn 1885 a Gorllewin y Rhondda rhwng 1918 a 1922.

Roedd yn gefnogol iawn i’r Gymraeg gan annerch San Steffan yn Gymraeg rywdro, cael ei wawdio ac ymateb drwy ddweud bod y sawl oedd wedi ei sarhau hefyd wedi sarhau Gweddi’r Arglwydd.

Yn denor uchel ei barch, roedd yn enw cyfarwydd ym myd yr Eisteddfodau, a Mabon oedd ei enw barddol.

Ymhlith y rhai eraill gafodd eu geni yn y pentref mae George Thomas, cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru; y cyflwynydd radio Chris Needs; a’r hyfforddwr rygbi Lyn Jones.

Bws i’r gymuned

Yn ôl Charlotte Galsworthy, mae magu perthynas dda â chwmni bysiau First Cymru, a’u gyrrwr lleol, wedi bod yn allweddol er mwyn gallu trefnu digwyddiadau fel y bws brawychus.

“Mae gyda fi berthynas dda â’r holl gwmnïau bws lleol.

“Mae’r bws yma yn mynd oddi ar yr heol yn ystod y gaeaf, felly fe wnaeth y gyrrwr Wayne gysylltu â fi a gwirfoddoli, achos dw i wastad yn ceisio gwneud rhywbeth neu’i gilydd, a dweud os oedd unrhyw beth ro’n i eisiau ei wneud neu defnyddio’r bws ar ei gyfer, y gallwn i.

“Dywedais i, ‘Iawn, wna i ei ddefnyddio fe ar gyfer Calan Gaeaf’.

“Achos dw i wastad wedi gwneud rhywbeth ar gyfer Calan Gaeaf ac oherwydd deddfwriaeth newydd sy’n dod i mewn o ran cau heolydd, mae’n hollol wahanol i fysiau ac mae’n cael gwared ar yr holl broblemau fyddai gyda fi pe bawn i’n cau’r strydoedd ac yn y blaen.

“Dw i’n defnyddio fy addurniadau fy hun achos mae gyda fi filiynau ohonyn nhw!

“Felly aethon ni o gael teithwyr oedd yn zombies a goleuadau strôb i feddwl am fynd amdani ac addurno’r cyfan.”

Noddwyr

Mae Charlotte Galsworthy yn cydnabod cefnogaeth noddwyr fel Cymunedau dros Waith a Mwy, archfarchnadoedd Tesco a Morrisons, cwmni bysiau First Cymru, a Heddlu’r De.

“Fe wnaeth yr heddlu ddilyn y tu ôl i ni hefyd, maen nhw’n rhan o’r gymuned ac roedden nhw yno i gadw pawb yn ddiogel,” meddai.

“Fe wnaeth y noddwyr gyfrannu at y Gronfa Gymunedol ac fe wnaethon ni ddefnyddio peth o’r arian hwn fel nad oedd angen i ni fynd i ofyn i bobol brynu tocynnau. Rhywbeth bach oedd hynny.”

Ond efallai bod diolch mwya’r gymuned i Charlotte Galsworthy ei hun, sy’n pwysleisio ei bod hi’n cynnal digwyddiadau i’r gymuned fel unigolyn yn gyntaf, ac fel cynghorydd yn ail.

“Dydy e ddim yn rhan o fy rôl fel cynghorydd, ond fel cynghorydd pan dw i’n gwneud digwyddiadau dw i’n ei weld e fel cyfle i’r plant a’r holl drigolion gwrdd â fi fel person a dod i fy nabod i.

“Dw i’n credu bod hynny lawer mwy pwerus na ffordd draddodiadol cynghorwyr.

“I fi, bydd y plant yn meddwl, ‘Dyna Charlotte eto!’

“Tasen nhw byth angen rhywbeth, dw i’n wyneb y gallan nhw ymddiried ynddo fe, a dod ata’ i pe bai problem gyda nhw.

“Mae’r un peth yn wir am yr holl drigolion, a bod yn onest, oherwydd wedyn maen nhw’n gallu gweld eu bod nhw’n gallu dod ata’ i.

“Maen nhw i gyd yn gwybod pwy ydw i yng Nghwmafan!”

Addurno hen dafarn yn olygfa ffilm Calan Gaeaf

Yng nghalon cymuned Cwmafan, ar Heol Crwys, mae adeilad hen dafarn The Old Copper House wedi cael ei addurno ar y thema Stranger Things, y gyfres deledu boblogaidd.

Wedi’i gosod yn y dref ffuglennol Hawkins yn nhalaith Indiana yn yr Unol Daleithiau yn y 1980au, ymhlith sêr y gyfres mae Winona Ryder.

Mae’n cylchdroi o amgylch digwyddiadau goruwchnaturiol yn y dref a’u heffaith ar drigolion y dref honno.

Dyma flas ar yr olygfa yng Nghwmafan, sydd wedi’i chreu yng nghartref Peter Mitchell, dylunydd set ar wahanol gyfresi teledu gan gynnwys Doctor Who, a’i bartner Donna Watkins-Davies: