Fe fydd teuluoedd yng Nghymru wnaeth golli anwyliaid yn sgil Covid-19 yn cael y cyfle i gymryd rhan yn yr ymchwiliad i’r pandemig.

Bydd grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru yn cael eu hystyried fel ‘cyfranwyr craidd’ yn ymchwiliad y Deyrnas Unedig.

Mae’r grŵp a’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r penderfyniad i’w cynnwys fel cyfranwyr ym modiwlau 2 a 2B yr ymchwiliad, sy’n cael ei arwain gan y Farwnes Hallett.

Fe fydd y modiwl hwnnw yn rhoi’r cyfle i deuluoedd graffu ar ymateb gwleidyddol a gwyddonol Llywodraeth Cymru i’r pandemig, gan ystyried penderfyniadau Llywodraeth San Steffan hefyd.

Er bod ymgyrchwyr wedi bod yn galw’n ddi-baid am gael ymchwiliad penodol i Gymru, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud sawl gwaith na fydd yna ymchwiliad penodol i Gymru, gan fynnu y bydd yr elfen Gymreig yn cael ei chynrychioli’n ddigonol yn ymchwiliad y Deyrnas Unedig.

‘Dim ond y dechrau’

Roedd gan y grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru – ynghyd â’r Ceidwadwyr Cymreig, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig a Phlaid Cymru – bryderon na fyddai digon o graffu ar benderfyniadau llywodraethau datganoledig Cymru a’r Alban mewn ymchwiliad ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd.

“Er fy mod i’n cytuno gyda’r teuluoedd sy’n galaru mai ymchwiliad penodol i Gymru fyddai wedi bod orau, dw i’n falch iawn o weld eu bod nhw’n cael dweud eu dweud yn yr ymchwiliad ar gyfer yr holl Deyrnas Unedig ar ôl cwffio mor galed i gael eu clywed,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Dw i’n sicr y byddan nhw’n gwneud gwaith ardderchog yn craffu ar benderfyniadau’r Llywodraeth Lafur, a wnaeth adael Cymru â’r gyfradd waethaf o ran marwolaethau Covid yn y Deyrnas Unedig, gyda chwarter y marwolaethau Covid yn dod o heintiadau a gafodd eu dal mewn ysbytai.

“Wrth gwrs, mae yna faterion eraill sydd angen eu harchwilio, o Gymru’n colli mwy o ddyddiau ysgol i’r pandemig nag unrhyw genedl Brydeinig arall, y cyfyngiadau Omicron gorfrwdfrydig, a methu â chynllunio ar gyfer y galw am wasanaethau cyhoeddus wedi’r pandemig, gan adael i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gael ei lethu nawr.

“Fodd bynnag, er gwaetha’r newyddion da hwn, dim ond y dechrau yw hyn ar gyfer cael yr atebion mae pawb yn eu haeddu a byddan ni angen gweld gweithredu cyson sy’n dangos na fydd Cymru’n mynd ar goll mewn ymchwiliad ar gyfer yr holl Deyrnas Unedig – fel arall, fyddan ni ddim yn dysgu gwersi i’n paratoi at y dyfodol.”

“Byddai’n well gennym pe na bai’n rhaid i ni fynd drwy’r pwysau sydd ynghlwm â hyn i gyd… ond mae’n llwyddiant anferth a fydd o fudd i bawb yng Nghymru,” meddai’r grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru.