Dylai Cymreigio’r stryd fawr, a sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yn gymunedol, fod yn brif flaenoriaeth cynllunio iaith yng Nghymru, yn ôl arolwg o gefnogwyr y Gymraeg.

Mewn ymateb i arolwg a gafodd ei gynnal yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Tregaron, cafodd defnyddio rhagor o Gymraeg mewn siopau, caffis a mannau cymdeithasu yn y gymuned ei nodi fel prif flaenoriaeth ar draws y wlad.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, ei bod hi’n “amlwg y byddai croeso i gynlluniau i annog sefydliadau’r stryd fawr i ddefnyddio rhagor o Gymraeg”.

“Gallai hyn gynnwys ei gwneud yn fwy amlwg ble mae modd defnyddio’r iaith mewn caffis a siopau, a rhoi gwersi Cymraeg i rai sy’n gweini ac yn gwerthu,” meddai.

“Mae angen symud ymlaen o arwyddion Cymraeg i ddefnyddio’r Gymraeg ar lafar.”

Canfyddiadau

Roedd gwahaniaeth, fodd bynnag, rhwng prif flaenoriaethau ymatebwyr ardaloedd mwy Cymraeg a gweddill y wlad.

Yn yr ardaloedd Cymraeg, cyfyngu ar dai gwyliau ac ail gartrefi oedd y brif flaenoriaeth, a datblygu’r economi i roi swyddi i bobol ifanc.

Mewn ardaloedd llai Cymraeg, datblygu ysgolion Cymraeg a dysgu’r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg ddaeth i’r brig, a Chymreigio’r stryd fawr a sefydlu Canolfannau Cymraeg wedyn.

“Yr hyn sy’n amlwg yn yr holl ymatebion yw bod siaradwyr y Gymraeg am weld cymunedau Cymraeg cadarn mewn ardaloedd mwy Cymraeg, ac am weld y Gymraeg yn cael lle mwy amlwg ym mywyd cymdeithasol cymunedau llai Cymraeg,” meddai Heini Gruffudd.

“Dylai creu amodau priodol i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yn gymunedol fod yn brif flaenoriaeth cynllunio iaith.”