Cafodd S4C ei sefydlu ar Dachwedd 1, 1982.
Un o’r ffigurau amlycaf yn y frwydr tros sianel Gymraeg oedd Gwynfor Evans, arweinydd Plaid Cymru.
Fe wnaeth e fygwth ymprydio yn ystod yr ymgyrch, er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher i sefydlu’r sianel.
Mae’r llun hwn yn dangos ei deulu yng Nghaerfyrddin, yn y fan lle traddododd ei araith ar ôl dod yn Aelod Seneddol Caerfyrddin yn 1966.