Mae Dŵr Cymru’n bwriadu cyflawni gwaith buddsoddi yn Llyn Celyn dros y blynyddoedd nesaf, er mwyn gwella gwytnwch yr argae am ddegawdau i ddod.

Mae’r cwmni dŵr nid-er-elw wedi cyflwyno cais cynllunio llawn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri am y gwaith mae’n bwriadu ei gyflawni yng nghronfa ddŵr Llyn Celyn ger y Bala.

Yn dilyn argymhellion statudol yr archwiliad deng mlynedd o Lyn Celyn, cafodd cynlluniau eu cyflwyno i adeiladu gorlifan newydd i helpu i ddelio â lefelau dŵr neilltuol o uchel.

Mae’r cais cynllunio a gafodd ei gyflwyno yn cynnwys gwelliannau i’r cyfleusterau i ymwelwyr ym mhrif faes parcio’r gronfa, ac ambell i nodwedd newydd hefyd.

“Mae Dŵr Cymru’n cymryd ei gyfrifoldeb dros ddiogelwch argaeau o ddifrif calon,” meddai Andrew Bowen, Pennaeth Diogelwch Argaeau Dŵr Cymru.

“Fel pob cronfa ddŵr fawr arall, mae Llyn Celyn yn cael ei archwilio’n rheolaidd.

“Canfu’r archwiliad deng mlynedd a gyflawnwyd gan beiriannydd annibynnol yn 2019 fod Llyn Celyn mewn cyflwr da, ond gwnaed ambell i argymhelliad i uwchraddio’r safle.

“Mae’r argymhellion hyn yn fandadol, a rhaid eu rhoi ar waith cyn pen pum mlynedd.

“Un o’r argymhellion oedd dod o hyd i ffordd o ddelio â lefelau neilltuol o uchel o ddŵr er mwyn lleihau’r angen am ymyrraeth ddynol.”

Gorlifannau

Mae un gorlifan gan gronfa ddŵr Llyn Celyn eisoes, a chaiff honno ei chadw fel y mae.

Nawr, mae Dŵr Cymru’n bwriadu adeiladu gorlifan ychwanegol ger pen yr argae, wrth ymyl y prif faes parcio.

Cafodd y cynllun cychwynnol i adeiladu gorlifan ychwanegol ei rannu â’r gymuned leol dros y 12 mis diwethaf trwy ddigwyddiadau i’r cyhoedd ac arddangosfa ar-lein.

Cafodd ymgynghoriad ei gwblhau cyn cyflwyno’r cais cynllunio dros yr haf hefyd.

Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad, cafodd y cynlluniau terfynol eu cwblhau a chafodd cais cynllunio llawn ei gyflwyno i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ei ystyried.

Y cynllun sy’n cael ei gynnig yw adeiladu gorlifan ategol ger y prif faes parcio oddi ar yr A4212, er mwyn delio â lefelau dŵr neilltuol o uchel.

Mae’r tebygolrwydd o weld lefel y dŵr mor uchel â hyn mewn unrhyw flwyddyn yn isel dros ben (0.01%, neu unwaith ym mhob 10,000 o flynyddoedd ar gyfartaledd).

“Am fod Llyn Celyn yn gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, mae effaith weledol y gorlifan newydd wedi bod yn flaenoriaeth i ni,” meddai Andrew Bowen.

“Mae’r gorlifan newydd wedi cael ei ddylunio’n ofalus i asio i’w amgylchoedd naturiol ac i weithio gyda’r tir wrth ymyl yr argae.

“Yn rhan o’r gwaith yma, rydyn ni’n awyddus i gyflawni gwelliannau er budd y rhai sy’n ymweld â’r argae hefyd.

“Rydyn ni wedi cynnwys byrddau picnic newydd, rheseli beics a hysbysfyrddau sy’n adrodd hanes y gronfa yn rhan o’r cais cynllunio hefyd.”

Hanes Llyn Celyn

Agorodd cronfa ddŵr Llyn Celyn ym 1965.

Achosodd boddi pentref Capel Celyn i greu’r argae ddicter mawr ar y pryd, ac mae’n dal i fod yn bwnc llosg heddiw ac mae’n bennod arwyddocaol iawn yn hanes modern Cymru.

Heddiw, mae Llyn Celyn ym mherchnogaeth Dŵr Cymru, ac mae’n cael ei reoli ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n rheoleiddio rhyddhau dŵr o Lyn Celyn o dan Gytundeb Gweithredu Afon Dyfrdwy.

Mae’r dŵr sy’n llifo o Lyn Celyn cael ei ddefnyddio at amryw o ddibenion a gan amryw o randdeiliaid, gan gynnwys y pwerdy hydro ar y safle i greu trydan ar gyfer y Grid Cenedlaethol, cyflenwi Canolfan Tryweryn â dŵr, cynorthwyo pysgota lleol, rheoli lefelau’r dŵr yn afon Dyfrdwy a chyflenwi dŵr ar gyfer Dŵr Cymru, United Utilities, Hafren Dyfrdwy, Severn Trent a Glandŵr Cymru.

Ers cyflwyno’r cais cynllunio, mae Dŵr Cymru wedi trefnu digwyddiadau ar gyfer y gymuned leol i arddangos y cynlluniau manwl.

Mae dau ddigwyddiad ym mis Tachwedd yn Frongoch a’r Bala, lle gall y cyhoedd weld y cynlluniau a’u trafod â thîm y prosiect.

Mae’r gwaith arfaethedig yn dilyn prosiect adfer 12 mis o hyd gan Ddŵr Cymru ar Gapel Coffa Capel Celyn, a gafodd ei gwblhau y llynedd er mwyn helpu i gynnal yr adeilad rhestredig Gradd 2*.

Os caiff caniatâd cynllunio ei roi, mae disgwyl y bydd y gwaith yn dechrau yng ngwanwyn 2023 ac y caiff ei gwblhau yn 2025.