Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am ddatgelu negeseuon WhatsApp gweinidogion Llywodraeth Cymru i ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig.

Byddai hyn yn rhoi mewnwelediad i sut y cafodd penderfyniadau eu gwneud yng Nghymru yn ystod y pandemig, meddai’r blaid.

Mae’r arweinydd Andrew RT Davies yn annog yr ymchwiliad i geisio cael mynediad i negeseuon preifat rhwng gweinidogion y Llywodraeth a swyddogion ym Mae Caerdydd, wedi i’r ymchwiliad Covid ofyn am gael gweld negeseuon WhatsApp Boris Johnson pan oedd yn Brif Weinidog, ynghyd â chyfathrebu gydag uwch-swyddogion eraill.

Mae e wedi ysgrifennu at y Farwnes Hallett, cadeirydd yr ymchwiliad, yn gofyn iddi sicrhau bod yr hyn sy’n cael ei orchymyn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yn berthnasol i’r weinyddiaeth ddatganoledig.

‘Tryloywder’

“Er mwyn i’r ymchwiliad gyflawni ei bwrpas o roi atebion i’r rheiny gollodd anwyliaid, eu busnesau ac oriau addysg gwerthfawr yn ystod y pandemig, mae’n hanfodol ein bod yn cael cymaint o dryloywder â phosib,” meddai Andrew RT Davies.

“Rhaid i hyn ymestyn y tu hwnt i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn San Steffan, fel bod pobol yng Nghymru yn gallu dal arweinwyr ym Mae Caerdydd i gyfrif hefyd.

“Mae angen i ni weld sut y gwnaeth gweinidogion ryngweithio â gweision sifil, y byrddau iechyd, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y darlun llawn.”

‘Ymchwiliad penodol i Gymru’

“Roeddem wastad eisiau ymchwiliad penodol i Gymru, ond heb un rydyn ni’n ysgrifennu at Gadeirydd ymchwiliad y Deyrnas Unedig i sicrhau bod pob llywodraeth o fewn y Deyrnas Unedig yn cael eu craffu’n gyfartal,” meddai wedyn.

“Rwy’n edrych ymlaen at glywed yn ôl gan y Farwnes Hallett am y sicrwydd yr ydym wedi ei geisio.”

Mae eraill hefyd yn galw am ymchwiliad Covid penodol i Gymru: