Mae rhai o wleidyddion Cymru wedi ymateb yn chwyrn i dro pedol Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, sy’n dweud y bydd e’n mynd i uwchgynhadledd COP27 wedi’r cyfan.

Daw hyn ar ôl iddo ddweud na fyddai’n mynd i’r Aifft oherwydd “ymrwymiadau pwysig gartref”.

Ond mewn datganiad newydd, dywedodd y byddai’n mynd gan nad oes “llewyrch hirdymor heb weithredu ar newid hinsawdd”.

“Does dim sicrwydd ynni heb fuddsoddi mewn [ynni] adnewyddadwy,” meddai.

“Dyna pam y bydda i’n mynd i COP27 yr wythnos nesaf: i weithredu ar waddol Glasgow [COP26] o adeiladu dyfodol diogel a chynaliadwy.”

‘Embaras’

Ymhlith y rhai yng Nghymru sydd wedi ymateb mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, a Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda.

“Am embaras gwasaidd fod yn rhaid i’r Prif Weinidog gael ei lusgo dan gicio a sgrechian i wneud y peth iawn,” meddai Liz Saville Roberts.

“Peth da ei fod o rŵan yn mynd i #COP27 – ond mae gwendid yn ei arweinyddiaeth yn golygu y bydd ganddo fo ychydig iawn o ddylanwad ar y llwyfan byd-eang.”

‘Da, drwg, gwaeth’

Mae Chris Bryant wedi ymateb i sylwadau Rishi Sunak, gan ddweud bod yna newyddion ’da’, ‘drwg’ a ‘gwaeth’ ynghylch y sefyllfa.

“Da. Mae Sunak yn mynd i COP27,” meddai.

“Drwg. Treuliodd e wythnos yn dweud nad oedd newid hinsawdd yn flaenoriaeth.

“Gwaeth. Mae e’n wan.”