Bydd gweithwyr un Cyngor Sir yn cael eu hannog i gael brechlynnau Covid-19 a ffliw fel bod modd iddyn nhw barhau i ddarparu gwasanaethau ym Mlaenau Gwent dros y gaeaf i ddod.

Yn ystod cyfarfod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ddydd Mercher, Hydref 26, trafododd cynghorwyr ystadegau absenoldebau salwch staff dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Blaenau Gwent ar waelod y tabl sy’n graddio awdurdodau lleol Cymru yn ôl salwch staff, ond mae pob awdurod arall hefyd yn dangos patrwm cynyddol.

Mae absenoldebau salwch wedi cynyddu yn ystod 2021-22, gydag 16.74 o ddiwrnodau wedi’u colli i bob gweithiwr llawn amser.

O dynnu absenoldebau Covid-19 allan o’r data, mae’r ffigwr yn gostwng i 14.2 o ddiwrnodau.

Mae hyn i fyny o’i gymharu â’r ffigwr o 11.67 o ddiwrnodau yn 2020-21, a 9.98 diwrnod i bob gweithiwr o dynnu ffigurau Covid-19 allan.

Mae hyn yn golygu bod y Cyngor wedi methu eu targed o ddeg diwrnod.

Yn ôl y Cynghorydd Steve Thomas, arweinydd y Cyngor, mae rhai aelodau o staff sydd wedi profi’n bositif am Covid-19 wedi gallu parhau i weithio gartref.

“Cafodd hynny effaith bositif ar y ffigurau hynny a allai fod wedi bod yn waeth,” meddai.

Ychwanega ei bod hi’n “bwysig” cydnabod nad oes gan awdurdodau lleol ledled Cymru yr un drefn o ran eu gweithlu, gyda rhai gwasanaethau’n “cael eu cynnal yn fewnol” ac eraill yn cael eu “hanfon allan”, sy’n gallu tarfu ar y ffigurau.

Ffigurau Covid-19 yn uchel

“Yr un peth sy’n fy mhoeni yw fod y ffigurau Covid-19 yn eithaf uchel, ac fe wnaethon ni brofi nifer uchel o achosion,” meddai’r Cynghorydd John C Morgan, yr Aelod sy’n gyfrifol am Adfywio.

“Mae disgwyl eleni y bydd mwy o ffliw yn mynd o gwmpas.

“Gallen ni gael sefyllfa ddeublyg o ran ffliw a Covid-19 dros fisoedd y gaeaf.”

Mae’n dweud ei fod yn meddwl ynghylch a yw’r Cyngor wedi meddwl sut i fynd i’r afael â hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Steve Thomas ei fod yn gwybod fod yna “ymgyrch enfawr” i godi ymwybyddiaeth o gael y brechlyn ffliw.

“Mae rhai cynghorau wedi penderfynu cymryd camau mwy llym a thalu am frechlynnau eu gweithwyr eu hunain,” meddai.

Gofynnodd a oedd hyn wedi cael ei ystyried.

“Dydyn ni ddim wedi edrych ar dalu,” meddai Andrea Prosser, Pennaeth Datblygu’r sefydliad.

“Yr hyn rydyn ni wedi’i wneud yw arwyddbostio’n gryf tuag at y cyfle rhad ac am ddim naill ai drwy fferyllfa neu feddyg teulu.

“Rydyn ni wedi gwneud hynny drwy ddydd Mercher llesiant a chylchlythyr y prif weithredwr – a byddwn ni’n parhau i wneud hynny.”

Yn ôl y Cynghorydd John C Morgan, mae hwn yn “ddull da”.

Dywedodd y Cynghorydd Steve Thomas y bu yna drafodaeth “dda iawn” ynghylch yr adroddiad yng nghyfarfod y pwyllgor craffu ym mis Medi.

Yn y cyfarfod hwnnw, pwysleisiwyd wrth gynghorwyr fod gan Flaenau Gwent lefelau uchel o faterion iechyd o ganlyniad i amddifadedd, a bod rhaid deall y cyd-destun hwn gan fod staff yn dod o’r gymuned.

“Dw i’n credu bod aelodau wedi dod i ffwrdd o’r drafodaeth honno â’r angen i gasglu mwy o wybodaeth y tu ôl i’r data,” meddai’r Cynghorydd Steve Thomas.

“Mae yna lawer mwy o gymhlethdod i hyn nag sy’n amlwg.”

Dywedodd Andrea Prosser fod cynghorwyr yn “awyddus” i gadw llygad ar ganlyniadau newid pwyslais awdurdod cyfagos sydd wedi disodli eu polisi rheoli presenoldeb i ganolbwyntio mwy ar les ac ataliad.

“Rydyn ni’n awyddus i weld beth yw eu hystadegau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol er mwyn ystyried unrhyw bolisïau wrth symud yn ein blaenau,” meddai.

Fe wnaeth cynghorwyr gymeradwyo’r adroddiad yn unfrydol.