Mae hwb gymunedol newydd yng Nghaernarfon.
Yn ôl Cemlyn Williams, sy’n ei rhedeg, y gobaith ydi y byddan nhw’n gallu paratoi bwydydd dros y gaeaf i bobol fwyaf bregus y dref, ac yn gallu rhoi lloches gynnes, a chroeso cynnes hefyd.
Mae’n gobeithio y bydd y gegin yn weithredol mis yma.
Mae bwyd Fair Share yn cael ei rannu yn yr hwb gymunedol, ac mae archfarchnadoedd yn rhoi bwyd na fydden nhw’n gallu ei werthu.
Am 4 o gloch ar brynhawn dydd Mercher mae’r cyhoedd yn cael mynd yno i gael bwyd.
“Am £3 maen nhw’n cael llond bag o fwyd,” meddai Cemlyn Williams wrth golwg360.
“Faswn i’n amcangyfri bod gwerth y bwyd yna’n £20.”
Mae’r hwb gymunedol hefyd yn cynnig gwasanaethau eraill, er enghraifft ar fore dydd Iau a bore dydd Gwener, mae rhywun o Citizents Online yno i ddysgu pobol sut i weithio eu gliniaduron a ffonau clyfar.
Mae gwasanaeth awtistig hefyd â phob math o weithgareddau.
“Mae’r hwb cymunedol yn ei ddyddiau cynnar, ond mewn dau i dri mis bydd bwrlwm yma,” meddai Cemlyn Williams wedyn.
Amcan yr hwb gymunedol yn ôl Cemlyn Williams “ydi bod pobol yn gyffyrddus yn medru dod yma a chael rhywbeth, cael gwybodaeth, cael bwyd neu gael arweiniad ar gostau ynni.”
Cefndir
Cafodd yr hwb gymunedol, Porthi Dre, ei sefydlu yn dilyn y pandemig.
Daeth grŵp o wirfoddolwyr at ei gilydd i greu Porthi Pawb a Phorthi Plantos.
Roedd bwyd yn cael ei ddarparu i bobol fregus a phobol oedd yn methu mynd allan yn ystod y pandemig.
Roedd ymdeimlad ymysg y gwirfoddolwyr bod yno rywbeth cymunedol cryf y gallen adeiladu arno.
Penderfynodd Cyngor Tref Caernarfon y bydden nhw’n cefnogi’r grŵp i’w galluogi nhw i greu mudiad lleol fel y bydden nhw’n medru datblygu hwb gymunedol ac adeiladu ar y gwaith oedd wedi cael ei wneud yn barod.
Dechreuon nhw wneud ceisiadau grant i Lywodraeth Cymru i gael pres i’w ddatblygu.
Y cam cyntaf oedd creu siop O Law i Law ar Stryd Llyn.
Roedd y grant yn caniatáu medru rhentu’r adeilad, ei addasu a chyflogi unigolyn i’w redeg.
Mae O Law i Law yn cael dillad plant ail law am ddim, ac yn eu gwerthu, a gwirfoddolwyr sy’n ei redeg.
Adeilad yr hwb gymunedol
Roedden nhw’n gweld bod yna adeilad gwag ar gael yn Lôn Santes Helen, ac yn teimlo bod hwn yn adeilad addas i fedru datblygu’r weledigaeth o hwb gymunedol.
Fe gawson nhw grant o £90,000 gan Lywodraeth Cymru, ac roedd hyn yn galluogi nhw i fedru rhentu’r adeilad.
Yn ychwanegol, fe wnaethon nhw fuddsoddi mewn cegin fasnachol.
- Os ydych eisiau gwirfoddoli yn y hwb gymunedol cysylltwch â Cemlyn Williams.