Mae David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru, wedi pwysleisio nad yw’n rhagweld gŵyl banc yn cael ei sefydlu ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Daeth ei sylwadau yn ystod sesiwn Cwestiynau Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin.
Fe wnaeth ei ragflaenydd, Robert Buckland, awgrymu y gallai Cymru gael Dydd Gŵyl Dewi i ffwrdd o’r gwaith drwy gael gwared ar ŵyl banc arall.
“Dw i wastad wedi cydymdeimlo â’r ddadl honno,” meddai Robert Buckland wrth y rhaglen Y Byd yn ei Le ar S4C.
“Yn fy marn i, byddai’n gwneud synnwyr cael gwared ar ŵyl y banc mis Mai, a chael Dydd Gŵyl Dewi fel ein gŵyl banc; byddai’n quid pro quo braf.”
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru ymhlith y rhai sydd wedi galw am wyliau ar ddiwrnod y nawddsant, tra bod Llywodraeth Cymru wedi dadlau y dylai’r pwerau gael eu datganoli i Senedd Cymru.
Mae Gogledd Iwerddon a’r Alban yn pennu eu gwyliau banc eu hunain, Gŵyl Sant Andreas a Dydd San Padrig, yn ogystal â chael y gwyliau banc mae Cymru a Lloegr hefyd yn eu cael.
Dim ond wyth o wyliau banc sydd gan Gymru a Lloegr, y nifer lleiaf yn Ewrop, tra bod gan yr Alban naw a Gogledd Iwerddon ddeg, gan fod y ddwy yn cael eu dyddiau cenedlaethol eu hunain i ffwrdd.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi gofyn “dro ar ôl tro” am gael y pŵer i ddynodi Mawrth 1 yn ŵyl banc, ond fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod y cais hyd yn hyn.
Fodd bynnag, mae sawl cyngor a chorff cyhoeddus yng Nghymru wedi rhoi diwrnod i ffwrdd o’r gwaith i’w staff ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni.
Mae’r rhain yn cynnwys Cyngor Gwynedd, Cyngor Tref Aberystwyth a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot hefyd wedi cytuno i lunio adroddiad ar roi diwrnod o wyliau i staff y Cyngor ar Ddydd Gŵyl Dewi, yn ogystal â lobïo Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i ddatganoli’r grym i’r Senedd.
‘Chwarae PlayStation’
Does gan David Davies ddim awydd gweld Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc, gan ddweud ei fod yn “derbyn safbwynt y llywodraeth fel y mae”.
“Nid dyna bolisi’r llywodraeth ar hyn o bryd,” meddai yn Nhŷ’r Cyffredin.
“Nid yw hyn yn rywbeth y byddwn i byth yn camu allan o’r cabinet drosto, beth bynnag sy’n digwydd.
“Rwy’n derbyn safbwynt y llywodraeth fel y mae.
“Ar ôl pwyso a mesur, rwy’n ei gefnogi. Mae rhai manteision o beidio â chael gŵyl banc.”
Mae e hefyd o’r farn na fyddai ei blant ef yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi pe na baen nhw yn yr ysgol ar ddiwrnod ein nawddsant.
“Dwi wedi bod yno sawl tro i’w gwylio nhw’n dawnsio, canu ac ati,” meddai.
“Dwi’n amau oni bai eu bod nhw wedi bod yn yr ysgol, yn hytrach na dathlu’r rhan hyfryd yma o ddiwylliant Cymru a mwynhau ychydig o’r iaith a’r dawnsio, efallai y byddai tueddiad i eistedd ar y soffa yn chwarae PlayStation.
“Byddai’n well o lawer gen i eu gweld yn dathlu diwylliant Cymru.”
‘Ffiasgo’
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn dweud bod y Ceidwadwyr Cymreig yn blaid “ranedig ac aneffeithiol”, wrth gyfeirio at yr anghytuno rhwng Aelod Seneddol y blaid ac Aelodau o’r Senedd.
“Mae’r ffiasgo parhaus hwn lle gwelwn y Ceidwadwyr Cymreig yn San Steffan a’r Senedd yn anghytuno’n sylfaenol â’i gilydd yn dangos eu bod yn rym gwleidyddol camweithredol, rhanedig ac aneffeithiol yng Nghymru,” meddai’r arweinydd Jane Dodds.
“Fyddai gan blaid Geidwadol gref o Gymru ddim problemau o ran sicrhau bod Cymru’n cael y £5bn o gyllid trafnidiaeth mae ei threthdalwyr yn ei haeddu neu a ddylai ein diwrnod cenedlaethol fod yn ŵyl banc.
“Dro ar ôl tro, rydyn ni wedi gweld yr anghytuno yma’n arwain at bobol Cymru’n colli allan.
“Mae angen i’r Ceidwadwyr Cymreig, eu haelodau seneddol ac Aelodau o Senedd Cymru benderfynu a ydyn nhw’n cynrychioli buddiannau’r Cymry ai peidio.”