Mae busnesau Porthaethwy yn galw am gefnogaeth frys yn dilyn cau’r bont yn y dref yn sydyn, sy’n cael effaith “ddinistriol” ar rai masnachwyr.

Dywed Sarah Morgan o’r Butterfly Boutique nad oedd hi wedi ennill ceiniog un diwrnod yr wythnos ddiwethaf, a hynny am y tro cyntaf erioed ers iddi agor ei busnes yn 2014.

Fe ddaw ar ôl i Bont Menai gael ei chau yn annisgwyl yn sgil gwaith trwsio diogelwch brys i’w bariau traul haearn ar Hydref 21.

Mae pobol yn osgoi’r dref yn sgil yr anghyfleustra i draffig a rhesi hir ar adegau brig ar yr unig lwybr sy’n weddill rhwng Ynys Môn a’r tir mawr, sef Pont Britannia.

“Mae’r effaith mae hyn yn ei chael ar rai masnachwyr yn ddinistriol,” meddai Sarah Morgan.

“Fe gollon ni gymaint yn ystod Covid, yna fe gawson ni’r ffair – pan nad oedd meysydd parcio ar gael – a rŵan, hyn.

“Doedden ni’n methu cynllunio ar gyfer hyn.

“Does neb yn gwybod am ba hyd mae hyn yn mynd yn ei flaen, mae dirfawr angen gwybodaeth arnom ni gan y rhai mewn grym.

“Mae’n bryderus eithriadol fel busnes nad ydan ni’n gwybod beth sy’n digwydd.”

‘Trychineb sy’n waeth nag unrhyw ddirwasgiad’

“Dw i wedi bod yn y siop hon ers ugain mlynedd, ac i mi mae hon yn drychineb sy’n waeth nag unrhyw ddirwasgiad mawr, yn waeth na’r pandemig, o leia’ bryd hynny gawson ni gefnogaeth,” meddai Glyn Davies, perchennog Oriel Glyn Davies sy’n ffotograffydd tirluniau proffesiynol.

“Dw i’n cael 75% o ‘nghleientiaid o Sir Caer, rhai o Lerpwl a Manceinion, ond dw i’n eistedd yma hefo oriel wag.

“Mae pobol yn osgoi’r ardal.

“Fedra i ddim mynd ymlaen fel hyn am fisoedd di-ben-draw, mae angen cymorth arnom ni, cefnogaeth ymarferol a gwybodaeth, nid sïon.

“O sbïo i lawr y stryd, does neb yn cerdded o amgylch.

“Dw i mewn busnes ers 40 mlynedd, a dyma’r gwaetha’ dw i wedi’i weld o, mae hi mor dawel.

“Does gennon ni ddim llais yma ym Mhorthaethwy, dw i’n siŵr ei fod o’n effeithio ar drefi a phentrefi eraill Ynys Môn.

“Mae yna bethau fedrai’r Cyngor, y llywodraeth, y priffyrdd eu gwneud i’n helpu ni, hwyrach ychydig wythnosau o seibiant rhag cyfraddau busnes, neu grantiau neu rywbeth, ond byddai newid yr arwyddion i neges bositif yn dweud bod y siopau ym Mhorthaethwy ar agor yn help.

“Mae pobol yn postio straeon dychrynllyd, mae rhai yn gorddweud ei bod hi’n cymryd oriau i groesi’r bont, maen nhw’n rhoi’r hoelen yn arch Porthaethwy.

“Mae yna beth oedi, yn bennaf ar adegau brig, ond os ydach chi’n cynllunio’ch taith y tu allan i amserau brig, y gwaethaf dw i wedi’i brofi ydi 15 neu 20 munud o oedi.

“Dw i’n gwerthfawrogi ei bod hi’n amhosib i athrawon, nyrsys a myfyrwyr, maen nhw’n styc hefo gorfod teithio ar adegau brig, ond mi fedrai fod yn anodd pe baech chi’n bwrw traffig fferi Dulyn, ond pe bai pobol eraill yn addasu eu hamserau teithio ac yn fwy ymarferol yna mi fysa fo’n iawn.”

‘Iasol o ddistaw’

Dywed Wendy Goodwin, sy’n gweithio i Pip’s Pet Supplies, ei bod hi wedi sylwi pa mor “iasol o ddistaw” mae hi wedi bod yno.

“Fel arfer, mae hi’n anodd dod o hyd i le i barcio yn y bore ond mae llawer o le rŵan.

“Mae hi fel tref ysbrydion.”

“Mae hi wedi effeithio ar ein cleientiaid hŷn sy’n hoffi dod i mewn i siarad am eu hyswiriant, ond sy’n ofni dod i mewn i’r dref rhag ofyn iddyn nhw fynd yn styc mewn traffig,” meddai Charlotte Roberts a’i gŵr Gary o’r busnes teuluol Anglesey Insurance Services.

“Mae hi wir wedi bod yn ddinistriol i rai busnesau.

“Yn ffodus, rydan ni’n medru gwneud llawer o’n gwaith dros y ffôn neu ar y cyfrifiadur, ond rydan ni hefyd wedi gweld gostyngiad mewn ôl traed, dydy pobol ddim yn pasio heibio ac yn galw i mewn.”

‘Busnes yn ôl yr arfer’

Dywed Sue Vincent, sy’n rhedeg siop hynafol a nwyddau garddio Hawthorn Yard, fod angen cymorth i ledaenu’r neges, gydag arwyddion yn dweud ‘Busnes yn ôl yr arfer’ ym Mhorthaethwy.

“Mae angen cymorth arnom gan y Cyngor, efallai cael goleuadau wedi’u gosod ar draws y strydoedd i wneud y dref yn fwy lliwgar, efallai ambell ddigwyddiad siopa yn yr hwyr,” meddai.

“Mae angen gwybodaeth arnom fel y medrwn ni gynllunio ein busnes, mae angen i ni roi neges bositif allan ein bod ni’n dal yma.

“Dydyn ni ddim wedi cael ein bomio – ond ein bywoliaeth ni ydi hyn, ac mae angen cefnogaeth a gwybodaeth arnom ni.”

Mae Jane Walsh o gaffi a bwyty Plus 39 wedi bod yn siarad â Sue Vincent yn yr iard.

“Mae hi wedi bod mor ddistaw, dw i ddim ond yma rŵan yn sgwrsio hefo Sue oherwydd ein bod ni wedi gorffen yn gynnar am fod llai o gwsmeriaid heddiw.

“Ar yr adegau brig gwaethaf, rydan ni’n gweld y traffig yn mynd yn ôl i’r dref, yr holl ffordd o Bont Britannia.”

Addasu

Mae Ed Billins, sydd wedi bod yn rhedeg busnes, & Caws, wedi addasu ei fusnes i’r amodau diweddar.

“Mae hi wedi bod yn fwy distaw ond mae ein masnachu wedi bod yn iawn, er ein bod ni ond wedi bod yma ers blwyddyn felly does gennon ni ddim byd i’w gymharu efo fo,” meddai.

“Rydan ni’n siop sy’n cael llawer o gwsmeriaid lleol, mae trigolion gerllaw yn cerdded atom ni.

“Rydan ni wedi addasu a pharatoi, rydan ni wedi cychwyn trefnu mannau gollwng blychau casgliadau fel bod modd i bobol gasglu eu hamperi caws at y Nadolig.”

Dywed llefarydd ar ran siop Evans, sy’n fusnes ers y 1930au, nad ydi ôl traed yn gostwng wedi effeithio’u masnachu’n fawr ond fod distawrwydd ar y strydoedd wedi effeithio ar ddosbarthu nwyddau.

Dywed Lisa Mayes o siop bobi a nwyddau cyffredinol Dylan’s ei bod hi wedi sylwi bod llai o bobol ar hyd y lle, a bod ôl traed wedi gostwng.

Mae hi am roi gwybod i gwsmeriaid fod y siop yn dal ar agor saith diwrnod yr wythnos.

Cynnig cymorth

Mae gwleidyddion o bob plaid ar y sbectrwm gwleidyddol wedi cynnig cymorth.

Ddydd Mawrth (Tachwedd 1), fe wnaeth Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ceidwadol yr ynys, godi mater cau’r bont yn ystod dadl seneddol.

Mae Rhun ap Iorwerth, Aelodd Plaid Cymru o’r Senedd dros yr ynys, hefyd wedi addo gofyn i Lywodraeth Cymru am “gymorth ariannol ac i gychwyn ymgyrch ‘busnes ar agor yn ôl yr arfer’.

Yn ystod dadl yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Virginia Crosbie bod croesi’r bont “yn hanfodol bwysig” i’w hetholwyr a busnesau ar Ynys Môn.

Mae hi hefyd yn “gyswllt pwysig” i gymudwyr lleol, myfyrwyr a thrigolion, y sawl sy’n ymweld ag Ynys Môn i siopa, ar wyliau neu i weithio, ac ar gyfer trafnidiaeth drwm, meddai.

Dywedodd fod y ddwy bont yn “ddolen gyswllt hanfodol” yn isadeiledd y Deyrnas Unedig.

Yr hyn sydd wedi bod yn syfrdanol, meddai, yw cau’r “fath bont bwysig heb rybudd, cynlluniau wrth gefn neu diffyg meddwl am yr effaith yn lleol ac yn genedlaethol”.

Dywedodd y byddai’r Is-Ysgrifennydd Gwladol James Davies yn ysgrifennu’n uniongyrchol at y Prif Weinidog [Mark Drakeford] “yn mynnu atebion”.

“Mae nifer o fusnesau wedi cysylltu â mi yn dilyn cau’r bont hefo pryderon am y gostyngiad mewn ôl traed ac enillion,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Felly, dw i wedi awgrymu “ymgyrch busnes ar agor yn ôl yr arfer” i’r sawl sydd wedi’u bwrw’n galed.

“Dw i wedi cysylltu â Chyngor Sir Ynys Môn yn gofyn iddyn nhw edrych ar hyn, a dylai Llywodraeth Cymru ystyried darparu cymorth ariannol.”