Mae Ysgrifennydd Cymru yn dweud ei fod wedi cael cyfarwyddyd gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig i ddatblygu “perthynas dda a chadarnhaol gyda Llywodraeth Cymru”.

Dywedodd David TC Davies wrth aelodau seneddol y byddai’n cynnal sgwrs fanwl arall gyda’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, heddiw (dydd Mercher, Hydref 2).

Mae’r berthynas rhwng San Steffan a Bae Caerdydd wedi bod yn un fregus yn y blynyddoedd ers Brexit, wrth i densiynau godi ar faterion megis Bil y Farchnad Fewnol.

Cwympodd y berthynas rhwng y ddwy lywodraeth yn Llundain a Chaerdydd i isafbwynt newydd yn ystod cyfnod byr Liz Truss yn Brif Weinidog pan fethodd â chael sgwrs gyda Mark Drakeford hyd yn oed.

Gwnaeth Rishi Sunak hi’n flaenoriaeth i ffonio Prif Weinidogion Cymru a’r Alban o fewn oriau ar ôl iddo ddod yn Brif Weinidog, a heddiw dywedodd David TC Davies fod hynny’n flaenoriaeth roedd Rishi Sunak eisiau i weinidogion eraill ei dilyn hefyd.

Roedd David TC Davies yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin am y tro cyntaf ers iddo gael ei benodi i’r Cabinet yr wythnos ddiwethaf.

“Pwysleisiodd y Prif Weinidog wrthym ni i gyd pa mor bwysig yw arddangos proffesiynoldeb bob amser,” meddai.

“Yn sicr, fe ddywedodd wrthyf ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n datblygu perthynas dda a chadarnhaol gyda Llywodraeth Cymru.

“Roeddwn yn falch iawn fy mod i, ddiwrnod ar ôl i mi gael fy mhenodi, wedi gallu siarad am amser byr gyda Mark Drakeford, ac rwy’n edrych ymlaen at gael sgwrs arall gydag e heddiw.”