Mae un o’r llwyfannau data prifysgolion uchaf ei barch yn lansio teclyn newydd i helpu darpar-fyfyrwyr i ddewis pa brifysgol i fynd iddi, a’u teuluoedd i’w cefnogi.
Bob blwyddyn, mae canllaw prifysgolion y Complete University Guide yn cyhoeddi cynghreiriau i helpu darpar-fyfyrwyr i wneud dewisiadau, ac maen nhw hefyd yn gyfrifol am drefnu Gwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni, gwobrau mae myfyrwyr yn pleidleisio ar eu cyfer.
Gan gydweithio â myfyrwyr, maen nhw’n mynd gam ymhellach wrth lansio Uniselect, teclyn ar-lein sy’n tynnu ar ddata am chwaraeon, costau byw a chyfleoedd am swyddi i sicrhau bod gan fyfyrwyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw mewn un lle i wneud penderfyniadau ynghylch eu dyfodol mewn ffordd sydd wedi’i theilwra ar eu cyfer nhw.
Mae costau llety, y pynciau gorau, lleoliad prifysgolion a mwy wedi cael eu cymharu â data’r Complete University Guide i roi’r cyfle i ddarpar-fyfyrwyr ymchwilio i 60,000 o gyrsiau mewn 130 o brifysgolion.
Mae’r rhestr derfynol o opsiynau sy’n cael ei chynnig i ddarpar-fyfyrwyr wedi’i theilwra er mwyn sicrhau bod y brifysgol maen nhw’n ei dewis yn cynnig yr hyn maen nhw ei angen, gan dorri faint o waith ymchwil sydd angen iddyn nhw ei wneud i ddod o hyd i’r brifysgol orau ar eu cyfer nhw.
‘Helpu myfyrwyr i wneud y penderfyniadau cywir’
“Gorchwyl CUG yw, ac a fu, helpu myfyrwyr i wneud y penderfyniadau cywir am eu dyfodol,” meddai Simon Emmett, Prif Weithredwr IDP Connect.
“Gyda’r heriau presennol sy’n wynebu myfyrwyr a’u teuluoedd – o gostau byw i lety – roedden ni eisiau adeiladu ar hyn a chreu teclyn fyddai’n tynnu’r straen allan o ddewis prifysgol.
“Gan ddefnyddio’r un data cadarn a dulliau cymhleth, rydyn ni wedi sicrhau ein bod ni’n parhau i fod â’r gorchwyl yma yn flaenllaw ac yn addas ar gyfer myfyrwyr yfory.
“Mae Uniselect yn tynnu’r cymhlethdod allan o ymchwilio opsiynau prifysgolion ac yn rhoi’r myfyriwr yn sedd y gyrrwr, gan eu galluogi nhw i siapio’u dyfodol yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.
“Maen nhw’n cael canlyniadau sy’n glir, yn ddiduedd ac yn seiliedig ar yr hyn maen nhw eisiau ei wybod.”