Bydd chwaraewyr pêl-droed Cymru’n rhydd i leisio barn am faterion fel camdriniaethau gweithwyr a hawliau LGBTQ+ yn ystod Cwpan y Byd yn Qatar, yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Wrth siarad gyda’r wasg ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 1), eglurodd Mark Evans, pennaeth materion rhyngwladol y Gymdeithas, fod y chwaraewyr wedi cael eu briffio ar record hawliau dynol y genedl sy’n cynnal y gystadleuaeth.
Dywedodd fod aelodau’r garfan wedi codi pryderon oedd ganddyn nhw, a chael gwybod fod ganddyn nhw rwydd hynt i drafod pynciau o’r fath yn ystod cynadleddau i’r wasg y twrnament.
Mae Rob Page, rheolwr Cymru, eisoes wedi dweud y bydd capten y tîm yn gwisgo’r band braich ‘One Love’ i gefnogi hawliau LGBTQ+, waeth os ydi Fifa yn ei gymeradwyo’n swyddogol neu beidio.
Cadarnhaodd Mark Evans nad ydyn nhw wedi clywed yn ôl gan Fifa ar fater y band braich, wythnosau’n unig i ffwrdd o ddechrau’r gystadleuaeth.
“Fe gawson ni sesiwn friffio gyda chwaraewyr ar ôl y gêm olaf gyda Gwlad Pwyl ac fe gawson nhw wybod y bydd ganddyn nhw ryddid i siarad ar unrhyw bwnc maen nhw eisiau yn ystod cynadleddau i’r wasg,” meddai.
“Rydym wedi ein cadarnhau ein bod yn gefnogol o ymgyrch One Love a byddwn yn gwisgo’r bandiau braich.
“Mae’r tîm yn benderfynol o’u gwisgo.
“Mae’n bwysig iawn i ni.”
Cannoedd wedi marw
Mae’n debyg bod cannoedd o weithwyr mudol wedi marw wrth weithio ar brosiectau adeiladu Cwpan y Byd Qatar.
Mae cyfunrywioldeb hefyd yn anghyfreithlon yn Qatar, ond mae awdurdodau yn y wlad wedi dweud bod “croeso i bawb” yng Nghwpan y Byd.
Dywedwyd hefyd fod pêl-droedwyr sydd â theulu – gan gynnwys gwragedd a chariadon sy’n hedfan allan i’w cefnogi – yn awyddus i wybod mwy am bolisïau ynghylch sut y dylai menywod ymddwyn a’r hyn y dylen nhw ei wisgo.
“Mae gennym ni grŵp WhatsApp gyda’r chwaraewyr lle maen nhw’n gallu parhau i ofyn cwestiynau ac rydyn ni’n postio straeon newyddion rydyn ni’n meddwl y dylen nhw fod yn ymwybodol ohonyn nhw,” meddai Mark Evans.
Er hynny, dywed fod nifer “sylweddol” o staff Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dewis peidio teithio i Qatar oherwydd safbwynt y wlad ar hawliau hoyw.
“Mae gan y Wal Goch enw da balch, yn enwedig gyda pha mor gynhwysol ydyn nhw a sut maen nhw’n cofleidio diwylliannau eraill.
“Fe fyddwn ni i gyd yn mynd allan yno gydag agwedd bositif gan ein bod ni eisiau bod yn rym positif yn ystod Cwpan y Byd.”
Bydd y twrnament yn dechrau ar Dachwedd 20, gyda Chymru’n wynebu’r Unol Daleithiau yn eu gêm grŵp gyntaf ar Dachwedd 21.
Bydd Cymru hefyd yn wynebu Iran a Lloegr yng Ngrŵp B.
‘Gwastraff amser’
Yn y cyfamser, mae’r Cymro Nathan Jones, rheolwr Luton, yn dweud bod cynnal Cwpan y Byd ym mis Tachwedd yn “wastraff amser”.
O ganlyniad i’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn y gaeaf, mae timau yn gorfod chwarae mwy o gemau ac o ganlyniad mae chwaraewyr yn fwy tebygol o gael eu hanafu.
Yn ôl Nathan Jones, “dydy hynny ddim yn deg”.
“Does neb eisiau mynd i Gwpan y Byd ym mis Tachwedd,” meddai.
“Mae’n wastraff amser llwyr, a ni sy’n talu’r pris.
“Mae’n rhoi lot o bwysau ar chwaraewyr a dyw hynny ddim yn deg oherwydd maen nhw’n gorfod chwarae llwyth o gemau ac mae nifer ohonynt yn cael eu hanafu.
“Dyw e ddim ond yn effeithio fy nhîm i, mae’n effeithio pawb.
“Alla i ddim meddwl am yr un clwb sy’n chwarae gyda’u tîm cryfaf.”