Mae Seland Newydd wedi cyhoeddi eu carfan i herio Cymru yng ngêm agoriadol cyfres rygbi’r hydref.

Ar ôl dewis tîm arbrofol yn erbyn Japan yr wythnos ddiwethaf, mae rhai o’r chwaraewyr mwy profiadol yn dychwelyd ar gyfer y gêm yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Tachwedd 5).

Mae Jordie Barrett wedi’i ddewis yn y canol gyda Rieko Ioane, tra bod David Havili ac Anton Lienert-Brown ar y fainc.

Mae Aaron Smith yn dychwelyd i safle’r mewnwr gyda Richie Mo’unga yn cwblhau’r haneri, tra bod Beauden Barrett wedi’i enwi yn safle’r cefnwr.

Caleb Clarke a Seve Reece fydd ar yr esgyll eto.

Ymhlith y blaenwyr, y rheng flaen fydd Ethan de Groot, Codie Taylor a Tyrel Lomax tra bod Scott Barrett yn holliach i ddychwelyd i safle’r clo gyda’r capten Sam Whitelock.

Y rheng ôl fydd Ardie Savea, Dalton Papali’i a Shannon Frizell.

Mae sawl carreg filltir ar y gorwel, wrth i Aaron Smith dorri record Dan Carter am y nifer fwyaf o gapiau i olwr yn hanes y Crysau Duon, wrth chwarae yng ngêm ryngwladol rhif 113 ei yrfa, tra gallai Ofa Tu’ungafasi ennill ei hanner canfed cap yn safle’r prop pe bai’n dod oddi ar y fainc.

Gallai’r eilydd Brad Weber ennill ei gap cyntaf yn 2022 hefyd.

Yn y cyfamser, daeth cadarnhad fod Seland Newydd wedi dewis cau to Stadiwm Principality ar gyfer y gêm, yn ôl eu hawl fel y tîm sy’n chwarae oddi cartref.

Cymru

Yn y cyfamser, mae Cymru hefyd wedi cyhoeddi eu tîm ar gyfer y gêm, gyda’r capten newydd Justin Tipuric wedi’i ddewis yn flaenasgellwr ochr dywyll am y tro cyntaf ers y gêm yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd.

Yn cadw cwmni iddo yn y rheng ôl fydd Tommy Reffell a’r wythwr Taulupe Faletau.

Mae’r bachwr Ken Owens a’r cefnwr Leigh Halfpenny hefyd yn dychwelyd am y tro cyntaf ers dros flwyddyn, gyda’r ddau brop Gareth Thomas a Tomas Francis yn cwblhau’r rheng flaen.

Adam Beard a Will Rowlands fydd yn yr ail reng.

Bydd yr asgellwr Rio Dyer yn ennill ei cap cyntaf, gyda Louis Rees-Zammit ar yr asgell arall.

Gareth Anscombe fydd yn dechrau yn safle’r maswr, gyda Tomos Williams yn fewnwr, a George North a Nick Tompkins yn y canol.

Ymhlith yr eilyddion mae Ryan Elias, Nicky Smith a Dillon Lewis (rheng flaen), Alun Wyn Jones a Christ Tshiunza (ail reng), y mewnwr Kieran Hardy, y maswr Rhys Priestland a’r canolwr Owen Watkin.

Bydd y gic gyntaf am 3.15yp, a’r cyfan yn fyw yn Gymraeg ar Amazon Prime, gydag uchafbwyntiau ar S4C.


Tîm Cymru

Leigh Halfpenny, Louis Rees-Zammit, George North, Nick Tompkins, Rio Dyer, Gareth Anscombe, Tomos Williams; Gareth Thomas, Ken Owens, Tomas Francis, Will Rowlands, Adam Beard, Justin Tipuric (capten), Tommy Reffell, Taulupe Faletau

Eilyddion: Ryan Elias, Nicky Smith, Dillon Lews, Alun Wyn Jones, Christ Tshiunza, Kieran Hardy, Rhys Priestland, Owen Watkin

Tîm Seland Newydd

Beauden Barrett, Sevu Reece, Rieko Ioane, Jordie Barrett, Caleb Clark, Richie Mo’unga, Aaron Smith; Ethan de Groot, Codie Taylor, Tyrel Lomax, Sam Whitelock (capten), Scott Barrett, Shannon Frizell, Dalton Papali’i, Ardie Savea.

Eilyddion:

Samisoni Taukei’aho, Ofa Tu’ungafasi, Fletcher Newell, Tupou Vaa’i, Akira Ioane, Brad Weber, David Havili, Anton Lienert-Brown