Mae Los Blancos ac S4C wedi cydweithio ar gân arbennig, ‘Bricsen Arall’, i ddathlu ymddangosiad hanesyddol Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA 2022.
Mae’r gân wedi ei rhyddhau heddiw (dydd Iau, Tachwedd 3), ychydig dros bythefnos cyn gêm gyntaf Cymru yn erbyn yr Unol Daleithiau ar Dachwedd 21, fydd i’w gweld yn fyw ar S4C.
Mae’r gân i’w chlywed ar wasanaethau ffrydio poblogaidd megis iTunes, Spotify, Amazon a Soundcloud, gyda’r fideo wedi ei ryddhau ar sianel YouTube S4C.
“Fi ’di bod yn aros ers oes am yr eiliad hyn.
“64 mlynedd, pum mis a dau ddydd – ond pwy sy’n cyfrif?”
Dyna yw’r geiriau sydd yn cael eu hailadrodd yng nghytgan bachog y gân, sydd yn adlewyrchu’r boen hanesyddol mae cefnogwyr Cymru wedi’i dioddef, yn ogystal â’r gorfoledd sydd wedi dod yn sgil oes aur y tîm dros y blynyddoedd diwethaf.
‘Hollol wahanol i’n proses arferol o sgwennu’
Un peth sydd yn amlwg wrth wrando ar y gân yw bod y band, sydd yn wreiddiol o Gaerfyrddin, yn aelodau selog o’r Wal Goch.
“Mae pob un ohonon ni’n massive football fans ac yn gefnogwyr mawr o dîm Cymru, ac mi rydyn ni’n mynd i’r gemau yn aml,” meddai Dewi, gitarydd bas y band.
“Felly pan gysylltodd S4C i ofyn a fyddai diddordeb gennym ni i recordio cân Cwpan y Byd, roedd e’n no brainer rili!
“Mae bod yn gefnogwyr yn rhoi bach o bwysau arnom ni achos mae hyn yn rhywbeth ti’n breuddwydio am wneud, ond rhywbeth ti byth yn meddwl cei di’r cyfle i wneud.
“Felly pan ddaeth yr amser i eistedd lawr ac ysgrifennu cân, roedden ni jyst ar goll am gwpwl o wythnosau, hefo writer’s block a methu meddwl am syniadau.
“Roedd e’n tough!
“Roedd e’n hollol wahanol i’n proses arferol o sgwennu cân.”
Felly sut mae’r band yn gobeithio bydd ymateb cefnogwyr Cymru i’r gân?
“Fi’n gobeithio fod pobol yn mynd i hoffi fe,” meddai Dewi.
“Ni wedi cael cyfle gwych gan S4C i recordio cân i nodi Cwpan y Byd, a gobeithio caiff e dipyn o sylw.
“Fi’n gobeithio fod ffans Cymru yn meddwl fod e’n gân eitha’ catchy a bod pobol yn gallu canu gyda fe.
“A gobeithio cawn ni berfformio hwn yn y stadiwm pan fydd Cymru yn qualify-io i Gwpan y Byd 2062, fel Dafydd Iwan!”
Mae pob linc i wrando a gwylio yma.