Mae cân newydd sbon wedi cael ei rhyddhau gan fand Neil Rosser am Ben Davies, un o arwyr ardal Castell-nedd, ar drothwy Cwpan y Byd.
Mae Neil Rosser, sy’n canu i’r band, yn “ffan enfawr” o’r amddiffynnwr ac yn rhagweld mai fe yw’r dyn i olynu Gareth Bale yn gapten Cymru pan fydd hwnnw yn ymddeol.
“Dw i’n ffan enfawr ohono fe, y ffordd mae e’n mynd o gwmpas ei waith a’r ffordd mae e mor ddiymhongar,” meddai Neil Rosser wrth golwg360.
“Mae e jest yn hollol broffesiynol, dyw e byth wedi gadael Cymru nac Abertawe lawr, dw i’n gwybod bod e’n chwarae i Spurs nawr ond mae e jyst yn enghraifft o berson hollol broffesiynol yn fy marn i.
“Dw i’n gobeithio y bydd Gareth Bale gyda ni am ychydig bach yn hirach, ond mae’n rhaid edrych ymlaen a dw i’n meddwl y byddai Ben Davies yn gapten gwych.
“Mae profiad gyda fe nawr ar lefel ryngwladol ac yn chwarae gyda’r goreuon yn yr Uwch Gynghrair bob dydd Sadwrn, felly dw i’n credu y bydde fe yn arweinydd da.
“Dw i jyst yn gobeithio y bydd e dal yn holliach ar gyfer Cwpan y Byd, dw i’n credu bod ganddo ddwy gêm ar ôl (yn yr Uwch Gynghrair).
“Mae e wedi bod yn chwarae yn dda iawn i Spurs ac wedi cael gôl yn ddiweddar felly mae’n argoeli’n dda.
“Jyst gobeithio y daw e drwy’r ddau benwythnos olaf yma’n iawn.”
‘Testun balchder’
Mae Ben Davies a’r chwaraewyr eraill sy’n dod o ardal Castell-nedd ac yn graddio o academi Abertawe yn “destun balchder” i Neil Rosser.
“Ac wrth gwrs, y rheswm arall yw ei fod e’n dod o Gastell-nedd ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Ystalyfera, sydd nawr yn dod yn dipyn o ysgol ar gyfer pêl-droed,” meddai.
Chwaraewr blaenllaw arall aeth i’r ysgol honno yw Rubin Colwill.
“Yn draddodiadol, mae hi wedi bod yn ysgol rygbi, ond yn ddiweddar rydyn ni wedi cael Ben Davies a chwpwl o fois eraill yn dod drwodd felly mae hynny yn grêt.
“Mae lot o bêl-droed yn yr ardal nawr, mae legacy beth wnaeth John Toshack gydag Abertawe yn yr 80au hefyd wedi gadael ei hoel.
“Mae yna lot o chwaraewyr ifanc yn dod drwy academi Abertawe, er nad ydyn nhw i gyd yn gwneud hi i’r tîm cyntaf.
“Hwnna sy’n cadw Abertawe i fynd, dydyn ni ffaelu fforddio prynu chwaraewyr, felly mae e i gyd yn seiliedig ar yr academi.
“Felly mae e’n destun balchder.”
‘Mynd cam ymhellach na Lloegr’
Beth felly am obeithion Cymru yng Nghwpan y Byd?
“Dw i’n credu bod y momentwm gyda ni,” meddai Neil Rosser.
“Bydde fe’n wych mynd cam ymhellach na Lloegr, dyna yw’r uchelgais.
“Maen nhw eto wedi cwympo mewn i’r trap o ddechrau meddwl eu bod nhw am fynd drwy’r stages cyntaf yn rhwydd.
“Ond dw i’n meddwl fod Cymru’n hyderus yn dawel bach y gwnawn ni’n well na nhw, fe fyddai hwnna yn Gwpan y Byd llwyddiannus i ni.”
Mae modd gwrando ar y gân drwy ddilyn y ddolen hon.