Fe wnaeth y fersiwn Gymraeg o’r gyfres deledu boblogaidd Gogglebox ymddangos ar ein sgriniau neithiwr (nos Fercher, Tachwedd 3), ond fe fu ymateb cymysg i’r rhaglen.

Cafodd cynulleidfaoedd ar draws Cymru a thu hwnt eu cyflwyno i’r cymeriadau fydd yn ein diddanu bob nos Fercher, o Lanelli i Fanceinion.

Ond fe wnaeth gwylwyr droi at Twitter i rannu eu barn am bennod gyntaf y gyfres hirddisgwyliedig, sy’n cael ei chyd-gynhyrchu gan Chwarael a Cwmni Da.

‘Mwynhau’n fawr’

Roedd rhai yn canmol pennod gyntaf y gyfres a’i chymeriadau ar Twitter.

“Dwi ‘di bod yn ffan hiwj o #Gogglebox ers iddo fe ddechre ar Channel 4. Wedi edrych mlaen felly i wylio #gogglebocscymru heno ar @S4C. Ges i ddim mo fy siomi – wedi mwynhau’n fawr. Y castio’n dda a throslais @Tudur yn berffaith,” meddai un.

“Dechra addawol iawn i #gogglebocscymru – fformat sy’n gweithio run mor dda yn Gymraeg. Dim ond gwella neith o fyd. Gawn ni #brawdmawrcymru nesa plis S4C?,” meddai un arall ar Twitter.

Mae rhai wedi dweud eu bod yn obeithiol y bydd yn eu helpu wrth ddysgu Cymraeg hefyd gan “nad yw’r rhaglen yn gorbwysleisio ar Gymraeg holl cywir ond yn gadael i bawb ddefnyddio’r iaith i’w gallu yn gyffyrddus”.

‘Gwarthus’

Ond doedd eraill heb eu plesio…

“Mae gwylio #GogglebocsCymru yn atgoffa fi ddal fyny efo cwsg Try again #s4c,” meddai un arall.

“O ni byth yn meddwl sw ni gweld rhaglen mor sal a lol GoggleBox na. Dwi wedi heno, Gogglebocs Cymru. #Pathetic.”