Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cyhoeddi Gŵyl Cymru heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 4).

Gŵyl gelfyddydol deg diwrnod yw hi, fydd yn digwydd wrth i’r genedl gefnogi Cymru yn ystod eu hymgyrch Cwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar.

Mi fydd yr ŵyl yn dechrau ar Dachwedd 19, a bydd bron bob digwyddiad yn rhad ac am ddim.

Nod Gŵyl Cymru yw uno ac amlygu’r cyfoeth o gelf, cerddoriaeth a digwyddiadau sy’n cael eu creu ar gyfer ymgyrch hanesyddol Cymru yng Nghwpan y Byd, a chyflwyno cynulleidfaoedd newydd i’r celfyddydau, iaith a diwylliant Cymreig – ac felly i sicrhau gwaddol diwylliannol i Gwpan y Byd FIFA 2022, gan y wlad leiaf i ennill ei lle yn y twrnament.

Bydd uchafbwyntiau’r ŵyl yn cynnwys:

  •  Footballroom; sioe ddawns/theatr yn archwilio pêl-droed a hawliau LHDTC+, wedi’i chynhyrchu gan August 012
  • Gigs comedi byw ar draws Cymru a Llundain, gyda digrifwyr o wledydd eraill yng Nghwpan y Byd yn ogystal â rhai o Gymru yn cynnwys Kiri Pritchard-McLean a Mike Bubbins
  • Theatr Genedlaethol Cymru yn cydweithio â thafarn Cwrw yng Nghaerfyrddin i gyflwyno gwaith gan eu Clybiau Drama wedi’u hysbrydoli gan Gwpan y Byd
  • Tafarn gymunedol Yr Heliwr yn cynnal cwis am Gwpanau’r Byd y gorffennol
  • Cerddoriaeth byw gan Sage Todz a Juice Menace (yng Nghaerdydd), Gwilym a’r Cledrau (yn Nolgellau), Lemfreck, Mace the Great a Teddy Hunter (yn Efrog Newydd) a’r band pres 11-offeryn The Barry Horns (yn Dubai)
  • Digwyddiadau llenyddol, nosweithiau barddoniaeth Bragdy’r Beirdd a sgyrsiau panel, gyda Wal yr Enfys, y bardd Rhys Iorwerth a Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa
  • Digwyddiad wedi’i gynnal gan Gymdeithas Gymraeg Syria i nodi a dathlu cefnogaeth ffoaduriaid o Gymru

Mae cefnogi lleoliadau annibynnol ar lawr gwlad yn ganolog i’r ŵyl; dyna pam fod lleoliadau’r ŵyl yn cynnwys sefydliadau cymunedol, clybiau pêl-droed, ysgolion, tafarnau cymunedol a neuaddau coffa.

Mi fydd llawer o ddigwyddiadau’r ŵyl yn digwydd ochr yn ochr â dangosiadau gemau calendr Cymru yn ystod y twrnament, ac mi fydd sawl digwyddiad ar-lein hefyd, felly bydd modd mwyhau’r ŵyl o gysur eich cartref.

Mae rhaglen lawn yr ŵyl nawr yn fyw yma: gwyl.cymru/cy.

Y byd yn gwylio

“Mae hon yn foment arbennig i bêl-droed yng Nghymru – a hefyd i ddiwylliant Cymru,” meddai Nick Davies, Cynhyrchydd Celfyddydau Cwpan y Byd.

“Mae’r byd yn gwylio felly ry ni isie creu a hyrwyddo digwyddiadau sy’n cynrychioli Cymru ar ei gorau oll – rhaglen gynhwysol, ddathliadol a hwyl, y gall pobl o bob un o’n cymunedau gymryd rhan ynddi.”

“Wrth i’r cyffro gynyddu cyn Cwpan y Byd cyntaf Cymru ers 64 mlynedd, mi fydd Gŵyl Cymru yn ein helpu i ddathlu ein diwylliant a’n treftadaeth ryfeddol, adref a thramor, ac yn ein galluogi i gefnogi’r tîm,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru.

“Gyda gwledd o ddigwyddiadau rhad ac am ddim yn digwydd dros y byd, mi fydd yr ŵyl yn ein helpu i hybu Cymru ledled y byd ac ymestyn ein gwerthoedd o gynwysoldeb ac amrywiaeth.

“Er taw ni yw’r wlad leiaf i ennill ein lle, mae gennym uchelgeisiau mawr a golud doniau a hanes.

“Rydw i wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi beth sy’n addo bod yn ddathliad wirioneddol unigryw o bêl-droed, gwerthoedd a bywyd y Cymry”.

Dangos ein diwylliant, celfyddydau, lleoliadau a chefnogwyr

“Dyma ddigwyddiad gwirioneddol anhygoel; gŵyl sydd nid yn unig yn dathlu camp ein pêl-droedwyr ond hefyd yn ddathliad o’r celfyddydau ac amrywiaeth gyfoethog ein cymunedau. Heb os, mae ‘na rywbeth i bawb yng Ngŵyl Cymru, ym mhob cwr o’n gwlad – a thu hwnt!” meddai Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru.

“Mewn jyst ychydig ddyddiau mi fydd Cymru yn weladwy ar lwyfan y byd fel na fuon ni erioed or blaen!” meddai Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Mae’n ffantastig i weld y cefnogaeth y caiff Cymru yn ystod y twrnamaint a sut gwnaiff ddigwyddiadau a lleoliadau rhyfeddol Gŵyl Cymru ddangos a dathlu ein diwylliant, ein celfyddydau, ein lleoliadau a’n cefnogwyr anhygoel dros Gymru a’r byd.

“Gyda diolch i Lywodraeth Cymru am gefnogaeth ariannol, mae ein huchelgais y bydd Gŵyl Cymru yn cyflwyno cynulleidfaoedd newydd ac aelodau’r Wal Goch i elfennau o gelf a chelfyddydau Cymreig na fyddent wedi dod ar eu traws o’r blaen yn dod yn wir heb os!

“Rwy’n edrych mlaen at glywed pa ddigwyddiadau yn y rhaglen fydd cefnogwyr Cymru yn mynychu.”