Wythnosau’n unig cyn gêm gyntaf tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd yn Qatar, mae cyfres o furluniau’n cael eu datgelu ledled y wlad.
Mae murlun Joe Allen wedi’i ddadorchuddio yn Arberth, yn ogystal ag un Gareth Bale yn yr Ais yng Nghaerdydd.
Tegerin (Teg) Roberts a Lloyd Jenkins yw’r artistiaid graffiti sydd wedi dylunio a phaentio’r murluniau.
“Daeth ei fam a’i dad i lawr i gael sgwrs gyda fi pan oeddwn i’n paentio,” meddai Lloyd Jenkins am Joe Allen.
“Doeddwn i ddim yn sylweddoli eu bod nhw’n byw jesd rownd y gornel.
“Gwnaeth hynna roi tipyn o extra pressure.
“Roedden nhw wrth eu boddau, yn blêsd iawn, dyna oedd y peth pwysicaf i mi.
“Roeddwn i’n gallu ymlacio wedyn.”
Gareth Bale a chaneuon Dafydd Iwan
Bellach, mae murlun Gareth Bale yn denu sylw pobol yn yr Ais yng Nghaerdydd.
“Mae’n hyfryd cael y murlun gwych o Gareth Bale yng nghanol y ddinas,” meddai Heulyn Rees, Prif Weithredwr Menter Caerdydd.
“Mae’n sicr o godi gwên.
“Gobeithio daw llawer o bobol i’r Hen Lyfrgell i dynnu lluniau a theimlo’r ysbrydoliaeth mae Gareth Bale a’r tîm yn rhoi i ni i gyd.”
Caneuon Dafydd Iwan sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth ar gyfer gweithgareddau’r Mentrau Iaith i ddathlu Cwpan y Byd Pêl-droed.
‘Peintio’r Byd yn Wyrdd’ yw’r gân ar gyfer y murluniau, er mai paentio’r byd yn goch fydd hi i ddathlu’r tîm a’r Wal Goch.
Bydd mwy o furluniau yn ymddangos ar draws Cymru yn y dyddiau nesaf, ym Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Maldwyn, Ceredigion, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf.
Murluniau’n ddewis “amlwg”
“Daeth pwyllgor bach at ei gilydd i drafod syniadau sut i ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed Cymru a’r gyfres o furluniau oedd yn un amlwg iawn i ni – yn llythrennol,” meddai Daniela Schlick, Cydlynydd Prosiectau Mentrau Iaith Cymru.
“Ein nod ni ydy cyfleu ysbryd y tîm a’r Cymry ar y murluniau.
“Yn bwysicach na dim rydym yn awyddus i gyrraedd cymunedau Cymru iddyn nhw allu fod yn rhan o’r dathliadau a gallu cadw rhywbeth yn ein cymunedau sy’n parhau.
“Mae’r murluniau’n fwriadol mewn lleoliadau sydd yn agos at y cymunedau.
“Rydym yn dathlu tîm Cymru, ein hiaith a’n diwylliant trwy groesawu pawb o bob man i ddathlu gyda ni.”
Mae rhwydwaith y Mentrau Iaith yn un o’r partneriaid allweddol ym Mhartneriaeth Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru, ac yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau cyffrous i ddathlu tîm pêl-droed Cymru a’u llwyddiant wrth gyrraedd Cwpan y Byd.
Mae mwy o wybodaeth am y gweithgareddau ar gael ar wefan Mentrau Iaith Cymru ac ar y cyfryngau cymdeithasol.