Mae Dan Biggar wedi gadael Clwb Rygbi Northampton, gan ymuno â Toulon yn gynt na’r disgwyl.

Bydd maswr Cymru’n symud i Ffrainc mis yma, ar ôl gemau’r hydref, yn hytrach nag aros tan ddiwedd y tymor.

Chwaraeodd e 69 o weithiau i’r tîm yn Lloegr, gan sgorio 614 o bwyntiau, ac fe ddaeth ei gêm olaf yn erbyn Wasps.

Yn ôl Phil Dowson, Cyfarwyddwr Rygbi Northampton, mae e wedi bod yn “was eithriadol” i Northampton, ac yn “arweinydd” ac mae’r clwb yn “parchu” ei benderfyniad.

Roedd ei gytundeb gyda Northampton yn dod i ben ar ddiwedd y tymor, ac mae’n gadael ar ôl arwain y clwb i’r pedwerydd safle ddwywaith yn Uwch Gynghrair Gallagher.

Yn ystod ei gyfnod gyda’r clwb, mae e hefyd wedi ennill ei ganfed cap dros Gymru, wedi dod yn gapten ar ei wlad, wedi ennill y Chwe Gwlad ddwywaith gan gynnwys y Gamp Lawn unwaith, ac wedi teithio i Dde Affrica gyda’r Llewod.

Mae’n dweud y bu’n “fraint” cael chwarae i Northampton, a’i fod yn “benderfyniad anodd” i adael Franklin’s Gardens ond yn un a wnaeth er lles ei deulu.