Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi lansio’u strategaeth gynaliadwyedd gyntaf erioed, Cymru, llesiant a’r byd, gan amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer “Cymru fyd-eang, leol”, gan ddefnyddio grym pêl-droed i wella llesiant y genedl.

Gyda thîm cenedlaethol y dynion yn mynd i Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 o flynyddoedd, dywed y Prif Weithredwr Noel Mooney y bydd y sefydliad yn rhoi cynaliadwyedd wrth galon eu holl benderfyniadau, ac yn annog yr ecosystem bêl-droed gyfan a gweddill y genedl i ddilyn eu hesiampl.

Mae’r strategaeth wedi’i datblygu gyda chefnogaeth Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, gan ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) fel conglfaen.

Yn 2015, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ymgorffori dyletswydd i amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol yn rhan o’r gyfraith.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i unrhyw benderfyniadau polisi sy’n cael eu gwneud heddiw ystyried yr effaith ar genedlaethau yfory.

Nawr, mae gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru’r weledigaeth o ddod yn arweinydd mewn cynaliadwyedd ym myd chwaraeon, gan ddangos sut gall pêl-droed chwarae rhan mewn cenedl fach er mwyn ysbrydoli eraill i ddilyn eu taith.

Y strategaeth

Mae strategaeth Cymru, llesiant a’r byd yn adeiladu ar gynllun strategol Ein Cymru y llynedd, a oedd yn amlinellu chwe philer strategol i adeiladu cysylltiad cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Mae’r adroddiad yn darparu cynllun gweithredu clir i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ddatblygu clybiau, cynghreiriau a mentrau cynaliadwy a chryfach ar draws saith maes ffocws – tîm, iechyd, strwythurau, cyfleusterau, partneriaethau, datgarboneiddio a chroeso.

Mae’r camau’n amrywio ac yn cynnwys popeth, o brosesau caffael diwygiedig i sefydlu cynlluniau siopau cyfnewid ar gyfer cit ac offer, creu cronfa i osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn clybiau a nodi pecynnau bwyd lleol, di-blastig, wedi’u seilio ar blanhigion ar gyfer yr ecosystem pêl-droed.

Bydd cynllun peilot yn sefydlu hwb pêl-droed llesiant mewn bwrdd iechyd i ddarparu gwasanaethau clinigol, gofal cymdeithasol, gofal iechyd meddwl a llesiant, cyn ei gyflwyno ledled y wlad, tra bydd clybiau a chynghreiriau yn cael eu gefeillio ag eraill o gwmpas y wlad i ddysgu a rhannu.

Mae hyrwyddo fformatau cyfranogiad newydd ac arddulliau pêl-droed ar y bwrdd er mwyn cynyddu mynediad i chwarae i bawb.

‘Sefydliad blaengar’

Dywed Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mai “dim ond camu ar y stryd yng Nghymru sy’n rhaid i chi ei wneud ar hyn o bryd i weld y gafael sydd gan bêl-droed dros y genedl”.

“Mae 3.1m ohonom wedi cyffroi ar gyfer ein Cwpan y Byd cyntaf mewn 64 mlynedd ac rydym yn benderfynol o harneisio’r grym hwn i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

“Rydym yn ystyried mai ein cyfrifoldeb ni yw eirioli dros faterion mewn cymunedau lleol ac o gwmpas y byd sy’n effeithio’n gadarnhaol ar ein ffordd o fyw.

“Mae’r pandemig wedi cyfrannu at sawl blwyddyn anodd i gymunedau pêl-droed ledled Cymru, ond rydyn ni’n taro’n ôl yn gryf.

“Rydyn ni’n hoffi meddwl amdanom ein hunain fel sefydliad blaengar sy’n cyd-fynd â diwylliant y cymunedau a’r cymeriadau sy’n rhan o’n gêm hardd.

“Gall meddwl am gynaliadwyedd yn gyntaf leihau ein hôl troed a’n gwastraff, dod yn fwy effeithlon a gwneud arbedion y gellir eu hail-fuddsoddi mewn pêl-droed ar lawr gwlad.”

‘Y gymdeithas chwaraeon fwyaf cynaliadwy yn y byd’

“Mae Cymru yn profi y gall fod yn arweinydd byd – ar y cae ac oddi arno,” meddai Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

“Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wrth wraidd y strategaeth gynaliadwyedd hon, a chymeradwyaf ymrwymiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddiogelu anghenion a buddiannau cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

“Mae hon yn strategaeth gynaliadwyedd cyfannol sy’n amlinellu’r camau gweithredu sydd eu hangen i fynd i’r afael ag argyfyngau lluosog a chreu byd gwell i’r rhai sydd heb eu geni eto.

“Edrychaf ymlaen at gefnogi staff, chwaraewyr, gwirfoddolwyr, cymunedau a phartneriaid i wneud Cymru y gymdeithas chwaraeon fwyaf cynaliadwy yn y byd.”

‘Adlewyrchu gwerthoedd cenedl’

“Yr hyn a all ein gwneud hyd yn oed yn fwy balch o dîm yng Nghwpan y Byd yw sefydliad y tu ôl iddo sy’n adlewyrchu gwerthoedd cenedl,” meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dangos eu streipiau blaengar yn eu strategaeth gynaliadwyedd a gyhoeddwyd heddiw.

“Yn ein chwaraeon, ein gwleidyddiaeth a’n bywyd o ddydd i ddydd, rydym bob amser yn ymdrechu i fod yn Gymru well – Cymru gynhwysol sy’n ystyried pa effaith a gaiff ein gweithredoedd heddiw ar genedlaethau’r dyfodol i’w dilyn.”