Mae Clwb Criced Morgannwg wedi denu’r bowliwr cyflym Harry Podmore yn ôl o Gaint, gyda chytundeb am gyfnod hir sydd heb ei ddatgelu.
Daw hyn ddyddiau’n unig ar ôl adroddiadau bod Michael Hogan, a gyhoeddodd ei ymddeoliad o griced sirol yn ddiweddar, yn symud i’r cyfeiriad arall ar ôl gwneud yr hyn sy’n ymddangos fel tro pedol.
Treuliodd Podmore gyfnodau ar fenthyg yng Nghymru yn 2016 a 2017, gan chwarae mewn pedair gêm dosbarth cyntaf a chipio pedair wiced.
Dechreuodd ei yrfa gyda Middlesex cyn ymuno â Chaint, lle cipiodd e dros 50 wiced mewn tymor yn y Bencampwriaeth ar ddau achlysur, ac roedd e’n aelod allweddol o’r tîm eleni wrth iddyn nhw ennill Cwpan Royal London, y gystadleuaeth undydd 50 pelawd.
Mae e wedi chwarae mewn 53 o gemau dosbarth cyntaf yn ystod ei yrfa, gan gipio 167 o wicedi ar gyfartaledd o 26.76, ac mae e hefyd wedi chwarae mewn 26 o gemau undydd Rhestr A a 23 o gemau ugain pelawd.
“O siarad â Mark Wallace [Cyfarwyddwr Criced Morgannwg] a rhai o’r chwaraewyr, mae’n hawdd deall y synnwyr o uchelgais a chyffro ynghylch y clwb,” meddai.
“Alla i ddim aros i ymuno â’r daith hon a gwneud gwahaniaeth ar y cae ac oddi arno.
“Dw i’n credu’n gryf fod fy nghriced gorau o fy mlaen i, a dw i’n edrych ymlaen at ffynnu ym mhob fformat.”
Cryfhau’r uned fowlio
Mae Morgannwg eisoes wedi colli Michael Hogan, Lukas Carey, Ruaidhri Smith a James Weighell o blith y bowlwyr ar ddiwedd y tymor hwn.
Ond yn ôl Mark Wallace, fe fydd Harry Podmore yn cryfhau’r uned fowlio wrth i’r clwb geisio cwtogi’r garfan am resymau ariannol.
“Rydym wrth ein boddau fod Harry wedi cytuno i ymuno â ni ar gytundeb am sawl blwyddyn,” meddai.
“Mae e’n fowliwr talentog iawn sy’n gallu bowlio cyfnodau hir a chyson, ac fe fydd e’n cryfhau ein hymosod ar draws pob fformat.
“O’i adnabod e o’i gyfnodau ar fenthyg yma, rydym yn sicr y bydd e’n ffitio i mewn yn dda iawn yn yr ystafell newid.
“Mae e wedi cyrraedd yr oedran lle mae ei flynyddoedd gorau o’i flaen e, ac mae e’n gallu perfformio ym mhob fformat.
“Rydym wedi cyffroi o’i gael e’n ymuno â ni yn y clwb.”