Ar drothwy uwchgynhadledd COP27 yn yr Aifft, mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn rhybuddio bod “newid hinsawdd yn argyfwng dirfodol” i wledydd fel Vanuata a Phacistan.

Tra bod Pacistan wedi cael ei tharo gan lifogydd difrifol dros y misoedd diwethaf, fe wnaeth seiclôn Harold daro Vanuatu, ynys fechan yn y Môr Tawel, yn 2020 gan ddifetha ysgolion ac adeiladau eraill, yn ogystal â chnydau hanfodol gan achosi gwerth dros $600m o ddifrod, a hynny’n cyfateb i fwy na 60% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) y genedl.

Mae Vanuata, ynys i’r dwyrain o Awstralia, yn arwain ymgyrch i ddwyn pwysau ar y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol i gyhoeddi safbwynt cynghorol ar hawliau cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol i gael eu gwarchod rhag newid hinsawdd.

Byddai’r fath gyhoeddiad yn arwain y ffordd i sicrhau bod gwledydd mawr a gwleidyddol bwerus y byd yn helpu gwledydd bychain fel Vanuatu yn wyneb heriau difrifol o ganlyniad i newid hinsawdd.

Yn ôl Liz Saville Roberts, dylai Prif Weinidog y Deyrnas Unedig – sydd wedi gwneud tro pedol yn ddiweddar yn dilyn ei benderfyniad i beidio mynd i COP27 – fod yn arwain yn hynny o beth.

“I wledydd fel Vanuata a Phacistan, mae newid hinsawdd yn argyfwng dirfodol,” meddai arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ar Twitter.

“Mae angen atebion byd-eang i broblemau byd-eang, ond mae gwledydd cyfoethog yn dal i fethu â dangos arweiniad.

“Rhaid i gyllid ar gyfer colled a difrod fod yn flaenoriaeth i Rishi Sunak yn #COP27.”

Araith Rishi Sunak

Mae Rishi Sunak yn traddodi araith yn COP27 heddiw (dydd Llun, Tachwedd 7), gan alw ar arweinwyr gwleidyddol y byd i wireddu eu haddewid i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Fe fydd e yn yr Aifft ar ôl dweud yn wreiddiol na fyddai’n mynd gan fod y Deyrnas Unedig yn wynebu heriau economaidd, a bod angen iddo fynd i’r afael â’r sefyllfa honno.

Ond fe wynebodd e gryn feirniadaeth, gan gyhoeddi yn y pen draw ei fod e am fynd wedi’r cyfan.

Bellach, mae disgwyl iddo fe alw ar lywodraethau i wireddu addewidion gafodd eu gwneud yn ystod COP26 yn Glasgow y llynedd.

Bryd hynny, fe wnaeth y Deyrnas Unedig helpu i sefydlu cytundeb hinsawdd byd-eang, ond dydy’r rhan fwyaf o’r addewidion yn hwnnw ddim wedi cael eu gwireddu eto.

Dywed Rishi Sunak fod Glasgow wedi cynnig “un cyfle olaf” i greu cynllun i gyfyngu’r cynnydd yn nhymheredd y ddaear i 1.5 gradd selsiws.

Bydd yn herio rhai o wledydd mwyaf pwerus y byd i fynd i’r afael â’r addewid, ac yn cyfarfod ag arweinwyr Ffrainc a’r Eidal ar gyrion yr uwchgynhadledd.