Mae golwg360 yn deall bod hanner y bobol gollodd eu trydan yn Nyffryn Ogwen yr wythnos ddiwethaf heb gyflenwadau am hyd at saith awr.
Ddydd Mercher diwethaf (Tachwedd 2), roedd nam ar gyflenwadau ardal Bethesda wedi effeithio ar fusnesau a thai, a chyfanswm o 600 o gwsmeriaid.
Yn ôl un busnes, nad ydyn nhw am gael eu henwi, doedd dim pŵer rhwng 1yp ac 8yh, gan gynnwys fferyllfa Boots.
Ar y pryd, postiodd Scottish Power ar dudalen Facebook Pesda Positive fod “systemau monitro ar ein rhwydwaith wedi gadael i ni wybod am nam annisgwyl sy’n effeithio ar nifer o gwsmeriaid dros ardal eang”.
“Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra a achoswyd, mae ein tîm ymateb brys wedi cael gwybod a disgwyliwn i’r cyflenwad gael ei adfer erbyn 03.45,” meddai’r neges wedyn.
“Cawsom ni nam rhwydwaith yn ardal Dyffryn Ogwen – ychydig ar ôl 12pm – a effeithiodd ar tua 600 o gwsmeriaid,” meddai llefarydd ar ran Scottish Power wrth golwg360.
“Mynychodd peirianwyr ar unwaith ac adferwyd y cyflenwad i 300 o gwsmeriaid o fewn llai na 45 munud, gyda’r gweddill yn cael ei adfer nos Fercher.
“Rydym yn parhau i ymchwilio i union achos y nam, a diolch i’r rhai yr effeithiwyd arnynt am eu hamynedd a’u cefnogaeth wrth i ni weithio i adfer cyflenwadau.”