Fe wnaeth lles penaethiaid ysgolion Cymru ddioddef mwy yn sgil effaith Covid-19 na’r cyfartaledd dros y Deyrnas Unedig, yn ôl ymchwil newydd.

Yn ôl adroddiad gan Brifysgol Abertawe, fe wnaeth uwch arweinwyr wynebu straen cymedrol i uchel, gyda thros eu hanner nhw yn arddangos symptomau iselder.

Dangosodd yr arolwg fod 75% o’r 170 arweinydd wedi dweud eu bod nhw’n gweithio ar lefel roedden nhw’n gwybod nad oedd yn dda iddyn nhw yn ystod y pandemig.

Fe wnaeth 93% ohonyn nhw weithio oriau ychwanegol, a dywedodd y rhan fwyaf eu bod nhw wedi blino’n feddyliol yn sgil y swydd.

‘Rôl bwysig lles arweinwyr’

Mae’r Arolwg Arweinyddiaeth Ysgolion Covid-19, oedd yn archwilio’r baich a’r straen ar benaethiaid a staff arweinyddiaeth uwch yn ystod y pandemig, bellach yn sail i adroddiad newydd dan arweiniad Dr Emily Marchant o Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod a Gwyddor Data Poblogaeth Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru.

Rhoddodd ymchwil flaenorol sylw i effaith cau ysgolion ar iechyd a lles disgyblion a’r heriau dysgu a datblygu ar gyfer staff addysgu a chefnogi, ond eglura Dr Emily Marchant fod bwlch mewn tystiolaeth sy’n archwilio effeithiau’r pandemig ar benaethiaid ac arweinwyr ysgolion.

“Mae hwn yn faes pwysig gan fod penaethiaid ac uwch-arweinwyr ysgolion wedi ymdrin â sefyllfa ac amgylchedd gwaith hollol newydd, a ofynnodd iddynt wneud penderfyniadau ac arwain yng nghyd-destun yr heriau niferus maent wedi gorfod eu meistroli a’u rheoli,” meddai.

“Nhw sy’n gyfrifol am bob agwedd ar fywyd ysgol a bu’n rhaid iddyn nhw ymdopi â gofynion arbennig o drwm yn ystod Covid.

“Mae adroddiad a gomisiynwyd gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol wedi trafod argyfwng posib mewn arweinyddiaeth addysg o safbwynt recriwtio a chadw penaethiaid, a’r rôl bwysig y gall lles arweinwyr ei chwarae wrth osgoi hyn.”

‘Gwella’r adnoddau’

Gofynnwyd hefyd i arweinwyr ysgolion raddio anghenion iechyd eu staff ac o safbwynt iechyd meddwl, dywedodd 91% mai’r mater pwysicaf oedd straen ac ymdopi.

Cafodd problemau mewnol megis gorbryder ac iselder hefyd eu graddio’n uchel.

Er mwyn diogelu iechyd a lles arweinwyr ysgol, dylid canolbwyntio ar raglenni ataliol er mwyn gwella’r adnoddau sydd ar gael i arweinwyr wrth ymdopi â gofynion a phethau sy’n achosi straen mewn perthynas â gwaith,” meddai Dr Emily Marchant wedyn.

“Rhaid ystyried hyn ar lefel unigol, sefydliadol a systematig i gefnogi arweinwyr yn eu rôl.”

Mae’r adroddiad yn nodi y dylid cael dull mwy strategol o gefnogi lles arweinwyr addysg, ac yn dweud bod angen ymchwil pellach sy’n mapio newidiadau i les arweinwyr dros amser a allai gyfrannu at gryfhau’r system dystiolaeth yn y maes.

‘Normal newydd i addysg’

Dywed cydweithredwr y prosiect, Tom Crick, Athro Digidol a Pholisi a Dirprwy Is-ganghellor Cenhadaeth Ddinesig Prifysgol Abertawe, bod recriwtio a chadw staff ysgol yn flaenoriaeth genedlaethol, “yn enwedig yng nghyd-destun yr arweinyddiaeth sydd ei hangen ar bob lefel i roi’r Cwricwlwm newydd i Gymru ar waith yn llwyddiannus ynghyd â diwygiadau i systemau addysg ehangach a geir ar hyn o bryd”.

“Gallai mynd i’r afael â lles ar draws y sector gyfrannu at hyn, wrth i ni ddechrau ar normal newydd ôl-Covid ar gyfer addysg yng Nghymru,” meddai.

Bydd y canfyddiadau’n cael eu cyflwyno yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Ewrop yn Berlin yn ddiweddarach y mis hwn.