Dydy’r sefyllfa ar Stryd Fawr Bangor “ddim gwahanol i nunlle arall”, yn ôl cadeirydd Partneriaeth Canol Dinas Bangor.

Daw sylwadau John Wynn Jones yn dilyn cryn feirniadaeth fod Stryd Fawr Bangor wedi dirywio, efo siopau wedi cau, ac mae’n dweud y gallai’r llywodraeth wneud mwy trwy ostwng trethi busnes a helpu pobol i ddefnyddio eu hysbryd entrepreneuraidd.

Dywed fod dirwasgiad cyffredinol ar y Stryd Fawr mewn sawl tref neu ddinas, ond ei fod yn fwy amlwg ar Stryd Fawr Bangor, a hynny am ddau reswm.

Yn y lle cyntaf, mae clwstwr o siopau gwag dan gloc y ddinas, ac mae’r rheiny yn dueddol o dynnu sylw.

Yn ail, mae gan Fangor y Stryd Fawr hiraf yng Nghymru, ac felly maen nhw am gael mwy o siopau gwag nag unman arall.

Bargains Galore Bangor
Dim rhagor o fargeinion yn y siop wag hon ym Mangor

“Dydi stryd fawr Bangor dim gwahanol i stryd fawr nunlle arall a dweud gwir,” meddai John Wynn Jones wrth golwg360.

“Dw i ddim yn gweld Bangor yn wahanol i Landudno a Chaer.

“Maen nhw i gyd efo siopau gwag.

“Gallai Llywodraeth Cymru neud mwy.”

Gobaith i Fangor

Lounge Club ym Mangor

Ond mae John Wynn Jones yn tynnu sylw at y ffaith fod “pethau mwy gobeithiol” yn y ddinas wrth fynd y tu hwnt i’r cloc.

“Mae yna siopau newydd yn agor yna,” meddai wedyn.

“Hefyd mae’r Ganolfan Deiniol, mae honno wedi agor i siop pop-up.

“Mae o’n rhoi profiad gwahanol i chdi gerdded yn fan’na yn hytrach na cherdded yn is i lawr.”

Dywed fod yna lawer o bethau da ym Mangor, gan gynnwys canolfan MSparc ar y lôn yn Stryd Fawr Bangor.

“Maen nhw’n rhoi cyfle i bobl ddatblygu a gwella sgiliau a gweld be sy’n bosib, cael chydig bach o arweiniad ar sut i agor busnes a sut i gychwyn busnes.”