Mae cynghorydd sir yng Ngwynedd yn galw am rwydwaith trenau Gorllewinol Cymreig fel na fydd rhaid i deithwyr yng Nghymru deithio trwy Loegr na chymryd rhai oriau i deithio o un lle i’r llall yng Nghymru.

Dywed Elfed Wyn ap Elwyn, cynghorydd Plaid Cymru tros ardal Bowydd a Rhiw, ei fod yn dymuno gweld rheilffordd rhwng Afon Wen a Bangor, ac ailagor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, ac o Gaerwen i Amlwch, fel y byddai llinell yn rhedeg o Amlwch yn y gogledd i Gaerdydd yn y de.

“Fy amcan i ydi fod, yn gyntaf, llinell rhwng Afon Wen a Bangor yn cael ei ailsefydlu, oherwydd fysa fo’n cysylltu llinell Pwllheli efo llinell Bangor,” meddai wrth golwg360. “[Byddai’n] cysylltu rhan fawr o’r gogledd.

“Hefyd, ailagor llinell Aberystwyth i Gaerfyrddin, adfer llinell o Gaerwen i Amlwch, fysa chdi’n gallu cael llinell trên fysa’n mynd o Amlwch i Gaerdydd.”

Dywed, pe bai rhwydwaith trenau Gorllewinol Cymreig, fyddai dim rhaid mynd trwy Loegr na chymryd yr oriau mawr i gyrraedd llefydd eraill yng Nghymru.

“[Mae] cael trên o Fangor i Aberystwyth yn bedair i saith awr. O fynd o Fangor i Gaerdydd, neu Aberystwyth i Gaerdydd, mae rhan fawr o dy ddiwrnod wedi mynd.

“Mae’n golygu bo chdi’n gorfod newid trenau dwy neu dair o weithiau.”

Angen astudiaethau dichonolrwydd

Mae Elfed Wyn ap Elwyn eisiau gweld astudiaeth dichonolrwydd yn cael ei gwneud, ac astudiaeth sgôp fyddai’n edrych ar beth fyddai’r gost a’r buddion economaidd.

Dywed fod angen ateb pob cwestiwn mae angen ateb iddyn nhw ynglŷn â’r rheilffordd.

Mae astudiaeth o’r fath wedi cael ei gwneud yn Aberystwyth a Chaerfyrddin eisoes, meddai, a hynny ers dechrau’r ymgyrch yn 2013.

“Byddai rhaid cysylltu gyda’r cynghorau i edrych be’ ydi’r potensial, ac os ydi o’n cyd-fynd gyda pholisïau’r cynghorau,” meddai wedyn.

“Mae angen cael Llywodraeth Cymru i weithredu yn ogystal â San Steffan.”

Y gyllideb a’r gost

Dywed ei fod yn disgwyl y byddai’r cyllid yn gyfuniad o arian gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Yn ôl y ffigurau, mae Cymru wedi cael ei thanseilio efo’r arian sydd fod dod mewn efo rheilffyrdd ni,” meddai.

“Mae yna ganran o’r rheilffyrdd yng Nghymru ond da ni ddim yn cael canran cyfatebol o’r arian amdanyn nhw.

“Mae £5bn fod ar gael i Gymru.”

Yn ôl ffigurau’r gorffennol, meddai, byddai trên sydd yn ailgysylltu’r llinellau rhwng Afon Wen a Bangor, a Chaerfyrddin ac Aberystwyth, yn costio rhwng £900,000 a £1m.

Byddai’n codi ychydig yn fwy eto efo chwyddiant.

Yn ôl Elfed Wyn ap Elwyn, mae pethau yn edrych yn obeithiol iawn ond mae angen gwneud gwelliannau i’r llinell yn gyffredinol yn gyntaf.

“Dim ond 20% o’r gyllideb rydan ni fod cael fysa hynny,” meddai wedyn.

“Be’ ydi £900,000 i filiwn pan wyt ti’n edrych ar yr holl arian sydd wedi cael ei wario efo HS2?

“Mae yna drenau sy’n cysylltu Llundain yn barod.

“Fysa trên sy’n cysylltu Bangor i Gaerdydd yn y gorllewin yn rywbeth chwyldroadol i gymunedau Cymru ac i’n pentrefi bach a chymdeithasau ni.

“Fysa fo’n creu hwb economaidd mawr.

“Fysa fo’n cysylltu’r hen bentrefi yma oedd yn arfer bod mor glos pan oedd y rheilffyrdd yna eisoes.”