Mae angen datblygu cyfleoedd i sicrhau bod pobol ifanc sy’n gadael Cymru i weithio yn gallu dychwelyd, yn ôl un o reolwyr rhanbarthol Busnes Cymru.
Roedd Dafydd Evans, rheolwr rhanbarthol y sefydliad yn y gogledd, yn rhan o gynhadledd ddiweddar yng Nghaerfyrddin oedd yn ystyried yr arfer ymysg pobol ifanc o symud o Gymru er mwyn dod o hyd i waith.
Mae’r arfer yn “broblem fawr” yng nghefn gwlad yn enwedig, meddai, gan ychwanegu bod angen i gyrff, busnesau a llywodraethau ddod ynghyd i ddatrys y broblem.
Wrth ei waith, mae Dafydd Evans, gafodd ei fagu ym Mhontrobert ym Maldwyn, yn gweld lot o bobol ifanc yn symud allan cyn dod yn ôl flynyddoedd wedyn, pan fyddan nhw tua 30 oed.
“Os does yna ddim cyfle i greu busnes neu gael gwaith yn y sector maen nhw eisiau gweithio, does ganddyn nhw ddim dewis – dyna ydy’r broblem, oes yna ddigon o gyfle i bobol ifanc aros yn yr ardal?” meddai wrth golwg360.
“Pan wnes i droi’n 17 oed, fe wnes i symud i’r brifysgol yn Lloegr, ac fe wnes i ddod yn ôl pan oeddwn i’n 25 neu 26 oed, felly dw i’n teimlo fel fy mod i’n rhan o’r effaith yma.
“Doedd dim cyfle i fi aros yn yr ardal yng nghanolbarth Cymru felly roeddwn i’n teimlo fy mod i eisiau profi rhywbeth newydd ac fe wnes i symud.
“Be’ dw i’n teimlo ei fod o’n effeithio hefyd ydy’r Gymraeg, pan mae pobol ifanc yn symud o’r pentref, maen nhw’n symud efo sgiliau Cymraeg.
“Fe wnes i symud allan gan fy mod i’n chwilio am rywbeth newydd, roeddwn i eisiau mynd i’r ddinas i gael profiad newydd a mynd allan o Gymru.
“Dw i’n teimlo weithiau fel mai dyna be’ mae pobol ifanc eisiau.
“Ond be’ rydyn ni eisiau ydy trio cael pobol ifanc i ddod yn ôl, felly o ran pobol sydd wedi symud allan i edrych am brofiad newydd, mae yna amser am ddod pan maen nhw eisiau dod yn ôl ac mae’n rhaid i’r cyfle fod yna i gael nhw i ddod yn ôl i Gymru.
“Maen nhw’n dod yn ôl efo profiad newydd, sgiliau newydd, ac mae hwnna’n agor cyfle hefyd.”
Pobol mewn gwaith ‘amherthnasol’
Er bod yna lot o bobol ifanc yn mynd at Busnes Cymru eisiau dechrau busnes, a bod cyfraddau diweithdra ymysg pobol ifanc rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru yn is nag y bu yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2022 (9.8%), y broblem ydy bod lot o bobol ifanc mewn gwaith sydd ddim yn berthnasol i’w sgiliau na’u haddysg, yn ôl Dafydd Evans.
“Yr enw ydy underemployed, mae lot o bobol ifanc yn underemployed,” meddai.
“Lot o bobol efo graddau mewn peirianneg ac ati, ond maen nhw’n gweithio mewn bar, neu rywbeth hanner amser mewn lletygarwch, a ddim yn gweithio yn y sector maen nhw eisiau.
“Mae hwnna’n un rheswm maen nhw’n symud allan.”
Ychwanega fod rhaid bod yn ofalus wrth ddefnyddio’r term ‘brain drain’, term gafodd ei greu pan oedd nifer o wyddonwyr a thechnolegwyr yn mudo o Ewrop i’r Unol Daleithiau wedi’r Ail Ryfel Byd.
“Be’ arall dw i wedi sylweddoli ydy bod pobol ddim yn licio’r enw brain drain; daeth hwnnw fyny pan oedden ni’n gwneud y gynhadledd,” meddai.
“Mae pobol yn teimlo bod y term ‘brain drain’ yn derrogatory, achos bod y bobol sydd wedi aros yng Nghymru a ddim wedi symud allan yn teimlo fel bod ganddyn nhw ddim ‘brains’ a bod gyd o’r ‘brains’ wedi symud.
“Mae’r bobol sy’n aros yn aros gan eu bod nhw’n penderfynu eu bod nhw’n gallu aros, a dim byd i’w wneud efo faint o addysg sydd ganddyn nhw.”
Angen i fusnesau roi cyfle i bobol ifanc
Ond mae gwaith i’w wneud efo busnesau er mwyn dangos iddyn nhw bod gan bobol ifanc rywbeth i’w gynnig i’w harweinyddiaeth, yn ôl Dafydd Evans.
“Be sy’n digwydd pan mae rhywun yn ei 50au yn gadael gwaith, mae [busnesau] yn trio cael rhywun newydd like for like, edrych am rywun efo profiad, yr un set o sgiliau… a dydy hynny ddim yn rhoi siawns i bobol ifanc achos does ganddyn nhw ddim y profiad eto.
“Rhaid i ni weithio efo cwmnïau i gael nhw i weld y bysan nhw’n gallu cael rhywun newydd sy’n ifanc a hyfforddi nhw, edrych ar eu hôl nhw, rhoi sgiliau iddyn nhw, a rhoi profiad iddyn nhw.
“Dyna hanner y broblem, dw i’n meddwl, does dim digon o fuddsoddi yn y sector breifat i gael pobol ifanc i le maen nhw eisiau bod.
“Dw i’n clywed lot o bobol yn dweud, ‘Dydy pobol ifanc ddim yn gwybod sut i gyfathrebu’. Ond, weithiau dw i’n teimlo nad dyna’r broblem o gwbl, ond dydy pobol ddim yn gwybod sut i gyfathrebu efo pobol ifanc.
“Mae technoleg a’r cyfryngau cymdeithasol wedi newid pethau, a newid sut mae pobol yn siarad.
“Dw i’n teimlo fel bod yna ymchwil i’w wneud i drio edrych ar hwnna.”
Mae Busnes Cymru yn gweithio gyda busnesau mewn sawl ffordd i geisio creu cyfleoedd fel nad ydy pobol ifanc yn teimlo bod rhaid iddyn nhw adael Cymru i ddod o hyd i waith sy’n berthnasol iddyn nhw.
Yn ogystal â gweithio gyda chwmnïau dros y wlad i edrych ar sgiliau eu timau rheoli a gweld pa hyfforddiant sydd ar gael iddyn nhw, maen nhw’n cynnig arweiniad i fusnesau sy’n penderfynu cyflogi rhywun sydd heb y lefel briodol o sgiliau neu brofiad.
“Hefyd, os yw cwmni’n dod mewn efo problem, mae ein Rheolwr Cysylltiadau yn eistedd lawr efo nhw a gweld, yn strategol, os oes yna rywbeth arall yn mynd ymlaen,” meddai wedyn.
“Lot o’r amser, mae’n dod lawr i brofiad y rheolwr busnes neu’r tîm rheoli, ac rydyn ni’n gallu rhoi pecyn at ei gilydd i gael nhw i edrych ar y tîm rheoli.
“Darn o’r hyfforddiant arweinyddiaeth ydy edrych ar y staffio, a gweld os oes yna gyfle i gael rhywun ifanc fel prentis ac ati.”