Mae’r rhan fwyaf o ysgolion Cymru yn ystyried cwtogi ar staff yn sgil argyfwng cyllido, yn ôl arolwg newydd.
Yn ôl yr ymchwil gan undeb arweinwyr ysgolion NAHT Cymru, mae ysgolion yn gorfod gwneud toriadau yn sgil costau cynyddu a thanariannu.
Dywedodd 73% o’r 670 pennaeth a gafodd eu holi y bydd yn rhaid iddyn nhw ddiswyddo cymhorthion neu gwtogi eu horiau yn y flwyddyn nesaf.
Mae 61% o ysgolion Cymru yn ystyried cwtogi nifer eu hathrawon neu nifer oriau gwaith athrawon hefyd, yn ôl y canfyddiadau.
Bydd 38% o ysgolion yn mynd i ddyled eleni os nad ydyn nhw’n gwneud toriadau pellach, a gan nad ydy’r rhan fwyaf o ysgolion yn cael gweithredu yn y coch, rhaid iddyn nhw wneud toriadau.
Mae’r ymchwil yn dangos bod bron i hanner (48%) yr ysgolion yn dweud y bydd yn rhaid iddyn nhw gwtogi’r gwasanaethau a’r gefnogaeth allgyrsiol i blant flwyddyn nesaf, sy’n golygu llai o gefnogaeth iechyd meddwl, cwnsela a therapi.
Fe fydd yn rhaid i 56% o ysgolion wario llai ar gymorth wedi’i dargedu ar gyfer disgyblion sydd angen cefnogaeth ychwanegol, medd yr arolwg.
‘Disgwyliadau afrealistig’
Mae ysgolion yng Nghymru’n wynebu’r diwygiad mwyaf ers degawdau o ran addysg, “sydd heb gael ei ariannu’n llawn”, a nawr maen nhw’n cael eu taro â chostau cynyddol a chodiad cyflog sydd heb gael ei ariannu, yn ôl cyfarwyddwr NAHT Cymru.
“Dydy’r ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd, cyflwyno’r Cwricwlwm Newydd i Gymru ac effaith cynyddu’r cynnig prydau ysgol am ddim heb gael eu hystyried,” meddai Laura Doel.
“Mae hyn yn gadael ysgolion mewn stad wael, yn gorfod dod o hyd i gydbwysedd rhwng cyfrifoldebau cyfreithiol sy’n ymwneud ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, eu dyletswydd i roi addysg o safon i bob dysgwr, a’u hymrwymiad i bolisi prydau ysgol am ddim na chafodd ei ystyried yn iawn, a’u cyfrifoldebau i’r tîm o’u cwmpas.
“Er bod aelodau NAHT yn llawn gefnogi cwricwlwm cynhwysol, ac yn deall yn well na neb pa mor bwysig yw cyflwyno hynny i’w dysgwyr, mae gofyn iddyn nhw wneud hynny ag un fraich wedi’i chlymu tu ôl i’w cefnau.
“Mae disgwyliadau afrealistig yn cael eu rhoi ar ysgolion, ac mae hi’n amser i’r Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru sylwi y bydd effaith tanariannu yn mynd ymhellach na diswyddiadau, ac y bydd yn cael effaith ar genhedlaeth o ddysgwyr.”
‘Storm berffaith’
Mae ysgolion yn cael eu taro gan “storm berffaith o gostau”, yn ôl Paul Whiteman, ysgrifennydd cyffredinol NAHT.
“Wrth drio cydbwyso eu cyllidebau, mae arweinwyr ysgolion yn wynebu biliau ynni ofnadwy, costau cynyddol ar gyfer adnoddau a chyflenwadau, ac effaith ariannol codiad cyflog sydd heb gael ei ariannu.
“Gyda dim byd ar ôl i’w gwtogi ar ôl degawd o gyni, mae miloedd o ysgolion yn wynebu mynd i’r coch oni bai eu bod nhw’n gwneud toriadau poenus.
“Mae addysg mewn stad beryglus.”
‘Cefnogaeth go iawn’
“Mae angen cefnogaeth go iawn ar ysgolion yng Nghymru gan y Llywodraeth Lafur, sydd ar goll yn ddifrifol ar hyn o bryd,” meddai Laura Anne Jones, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae cyllidebau ysgolion wedi’u hymestyn ddigon yn sgil gofynion cynyddol arnyn nhw gan y Llywodraeth Lafur, heb fawr o arian neu dim arian o gwbl i ddilyn y cyfarwyddiadau hynny.
“Mae Cymru eisoes wedi gweld gostyngiad o 10% yn nifer yr athrawon ers 2011, sy’n golygu 4,000 yn llai o athrawon er bod 7,000 yn fwy o fyfyrwyr.
“Byddai toriadau staff pellach yn ychwnaegu at y pwysau cynyddol sy’n wynebu ysgolion, a byddai’n ergyd i athrawon, sydd wedi gweithio’n galed ac wedi gwneud cystal yn ystod y pandemig Covid.
“Mae Llafur wedi tanariannu addysg yn ddifrifol yng Nghymru am yn rhy hir.
“Nhw sydd â’r grym, gydag addysg wedi’i ddatganoli, does ganddyn nhw neb i’w feio ond nhw eu hunain.”
‘Angen i Lywodraeth San Steffan weithredu ar frys’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhhw’n cydnabod bod lefelau uchel o chwyddiant a chostau ynni yn achosi pwysau ariannol ar ein gwasanaethau cyhoeddus.
“Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi.
“Mae’r lefelau sylweddol o gyllid sydd eu hangen yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu ar frys.
“Mae cyllideb Llywodraeth Cymru bellach yn werth £4 biliwn yn llai dros y tair blynedd nesaf, ac mae hynny cyn y toriadau yn y gyllideb y mae’n bosibl y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eu cyhoeddi yr wythnos nesaf.
“Rhaid i gyllid Cymru gael ei adfer gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i helpu i ddiogelu swyddi a chefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus.
“Rydym yn cydnabod bod y ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf yn dangos bod cronfeydd wrth gefn cyffredinol y cyllidebau ysgolion yn parhau i fod yn uchel iawn.
“Mae Awdurdodau Lleol ac ysgolion eisoes yn trafod sut i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn a byddwn yn eu cefnogi gyda hynny.”