Mae cynllun Llywodraeth Cymru i gael gwared ar gartrefi plant annibynnol yn bygwth niweidio plant a phobol ifanc, yn ôl Sefydliad Cartrefi Plant.
Yn ôl yr elusen – corff sy’n cynrychioli cartrefi plant yng Nghymru a Lloegr – byddai’r cam yn costio dros £150m i drethdalwyr hefyd.
Er bod yr elusen yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i wella trefniadau ar gyfer gofal cymdeithasol, maen nhw’n dweud bod rhaid iddyn nhw wrthwynebu polisi fyddai’n cael gwared ar gartrefi gofal preifat.
Mae’r cam yn “bygwth degawdau o esblygu ac arbenigedd mewn gofal preswyl i blant”, yn ôl y Sefydliad Cartrefi Plant.
“Does yna ddim tystiolaeth i awgrymu y byddai cael gwared ar ddarparwyr cartrefi gofal preifat yn gwella’r Gwerth Cymdeithasol yn y tymor byr na’r tymor hir – mae’r gost ariannol ar ben ei hun, ar adeg o bwysau ofnadwy ar gynghorau Cymru, yn awgrymu’r gwrthwyneb,” meddai’r elusen.
“Ein barn ni, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yw bod y gost ariannol, gymdeithasol a dynol o gael gwared ar ddarparwyr cartrefi plant preifat o Gymru wedi cael ei thanamcangyfrif, ac y byddai’r newidiadau arfaethedig yn gwaethygu’r argyfwng galw, yn ogystal â chael effaith uniongyrchol ar lesiant a siawns plant a phobol ifanc mewn bywyd.”
‘Colli arbenigedd’
Yn ôl yr elusen, dydy hi ddim yn edrych fel bod symud ymysg awdurdodau lleol i agor cartrefi plant, a does yna ddim tystiolaeth y bydd cartrefi plant preifat Cymru’n cael newid i ddilyn model ‘nid-er-elw’.
Byddai’r gost o newid rheiny am gartrefi plant cyhoeddus dros £150m, yn ôl y Sefydliad Cartrefi Plant.
“Mae hi’n anodd deall sut gall Llywodraeth Cymru gyfnewid y ddarpariaeth fyddai’n cael ei golli, sut y bydd mwy o lefydd mewn cartrefi’n cael eu creu, a sut y bydd niwed i blant a phobol ifanc yn cael ei osgoi,” medden nhw.
“Mae’n bwysig cydnabod mawredd colli’r arbenigedd ar sgil sydd gan nifer o ddarparwyr gofal preswyl i blant – nifer ohonyn nhw’n fusnesau bach preifat.
“Rydyn ni’n annog Llywodraeth Cymru ailasesu a yw’r polisi drud ofnadwy yma (a gafodd ei greu cyn yr argyfwng cyllid presennol) yn ymarferol heb achosi niwed sylweddol i blant a phobol ifanc, economïau lleol a chyllidebau awdurdodau lleol.”
‘Ymwneud â gwerthoedd’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae buddiannau gorau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein hymrwymiad Cytundeb Cydweithredu gyda Phlaid Cymru i ddileu elw preifat o ofal plant. Mae hyn yn ymwneud â gwerthoedd.
“Rhaid i ni sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi i ofalu am blant, yn hytrach na’i gymryd allan fel elw – dylid ei wario ar wasanaethau plant i ddarparu profiadau a chanlyniadau gwell i blant a phobol ifanc, a bod yn anghenion ac yn seiliedig ar werthoedd.
“Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a darparwyr i reoli’r trawsnewid hwn mewn ffordd ystyriol.
“Rydym wedi ymgynghori’n ddiweddar ar ein dull arfaethedig a byddwn nawr yn ystyried yr holl ymatebion yn ofalus.”