Mae ymgyrchwyr amgylcheddol ifanc wedi dod ynghyd yng Nghaerdydd yr wythnos hon ar gyfer cynhadledd COP Ieuenctid gyntaf Cymru.

Byddan nhw’n trafod newid hinsawdd gydag arweinwyr gwleidyddol Cymru, yn cyfarfod â sefydliadau amgylcheddol, ac yn clywed safbwyntiau rhyngwladol am newid hinsawdd.

Mae’r digwyddiad deuddydd sy’n dechrau heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 8) yn dilyn yr un model ag uwchgynhadledd COP y Cenhedloedd Unedig.

Heddiw, bydd grŵp o 24 disgybl o chwe ysgol yn ymddwyn fel cynrychiolwyr ar ran disgyblion Cymru, ac yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel ac yn cwestiynu gwleidyddion am yr ymrwymiadau gafodd eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yn COP26 yn Glasgow y llynedd.

Fe fydd 120 o bobol ifanc o 24 ysgol yn cael mynd i ddigwyddiad rhyngweithiol yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd fory, fydd yn cynnwys stondinau a gweithgareddau.

Ymysg yr arlwy, bydd Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd yn perfformio darn o gerddoriaeth maen nhw wedi’i gyfansoddi sy’n trafod newid hinsawdd a’i effaith ar bobol ifanc.

Maint Cymru, elusen amgylcheddol sy’n rhoi pwyslais ar blannu coed, sydd wedi bod yn trefnu’r digwyddiad, a bydd eu partneriaid, tîm Mbala Tree Growing, yn ymweld â Chymru o Uganda ac yn trafod yr effaith mae newid hinsawdd yn ei gael yno.

Gyda chefnogaeth Maint Cymru ac arian gan Lywodraeth Cymru, mae cymunedau lleol yn Uganda wedi plannu ugain miliwn o goed.

‘Amddiffyn dyfodol pobol ifanc’

Newid hinsawdd yw’r “bygythiad mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth, a chenedlaethau ifanc a chenedlaethau’r dyfodol fydd yn dioddef waethaf yn sgil hyn”, yn ôl rheolwr addysg a pholisi Maint Cymru.

“Mae hi’n hollbwysig bod pobol ifanc yn gallu siarad â’r rhai sydd mewn grym am yr hyn maen nhw’n ei wneud i amddiffyn eu dyfodol, a’r hyn maen nhw am ei weld,” meddai Kevin Rahman-Daultrey.

“Dyna pam bod cynnwys pobol ifanc yn y broses COP a chynnig platfform i bobol ifanc ddod at y bobol sydd mewn grym yma yng Nghymru mor bwysig.”

Dywed Alfred, fydd yn cadeirio’r panel ar ran Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid heddiw fod COP26 wedi “ein hatgoffa mai’r pwysau y mae pobol ifanc yn ei roi ar y rhai mewn grym sy’n arwain y frwydr yn erbyn newid hinsawdd”.

“Mae COP27 yn rhoi cyfle i’r ieuenctid ddangos eto nad yw geiriau’n ddigon – rydyn ni angen gweithredu ar frys,” meddai.

‘Rhaid gweithredu’

Roedd gan blant blwyddyn 5 oed a hŷn gyfle i holi Delyth Jewell, llefarydd newid hinsawdd Plaid Cymru, Lee Waters, Dirprwy Weinidog Hinsawdd Cymru, fel rhan o’r panel heddiw.

“Dw i wrth fy modd yn cefnogi Maint Cymru wrth iddyn nhw drefnu COP Ieuenctid cyntaf Cymru, gan fy mod i’n credu ei bod hi’n hollbwysig bod lleisiau pobol ifanc yn cael eu clywed wrth i benderfyniadau a fydd yn effeithio gweddill eu bywydau gael eu gwneud,” meddai Delyth Jewell, sy’n cynrychioli Dwyrain De Cymru yn y Senedd.

“Rhaid cymryd sylw o rybuddion y Cenhedloedd Unedig bod ein planed yn anelu at drychineb, a rhaid gweithredu – rhaid i fy nghenhedlaeth weithredu nawr er mwyn osgoi bod yn gyfrifol am wneud y byd hwn yn un nad oes posib byw ynddo.

“Dw i wedi bod yn gweithio gyda phobol ifanc i gael gwell dealltwriaeth o’u barn a’u teimladau am newid hinsawdd er mwyn sicrhau bod eu dymuniadau nhw ar flaen fy meddwl wrth ddatblygu polisïau amgylcheddol, a dw i’n edrych ymlaen at glywed beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud yn y digwyddiadau’r wythnos hon.”