Mae Rhys ab Owen wedi’i wahardd gan Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd o ganlyniad i achos difrifol honedig o dorri’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd.

Daw’r penderfyniad yn sgil ymchwiliad Pwyllgor Safonau’r Senedd.

Mae Rhys ab Owen yn cynrychioli Canol De Cymru ers iddo gael ei ethol i’r Senedd y llynedd, ond yn sgil y gwaharddiad fe fydd yn aelod annibynnol am y tro.

Mae’n dal i fod yn aelod o’r Blaid.

“Gweithred niwtral, heb ragfarn” yw’r penderfyniad, yn ôl llefarydd ar ran Grŵp Plaid Cymru, sy’n dweud na fyddan nhw’n gwneud sylw pellach am y mater.