Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu record hawliau dynol tair plaid arall yn y Senedd sy’n teithio i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd i gefnogi tîm pêl-droed Cymru.

Daw sylwadau’r arweinydd Jane Dodds ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn anfon dirprwyaeth i’r twrnament.

Mae hi’n dweud mai ei phlaid hi yw’r unig un yng Nghymru sy’n fodlon gwneud safiad, a bod safbwynt y pleidiau eraill yn destun siom eithriadol.

Mae Qatar dan y lach ers tro yn sgil torri hawliau dynol, gyda’r wlad yn rhif 126 allan o 167 o wledydd ar fynegai sy’n mesur cyfundrefnau awdurdodol.

Mae gan y wlad record wael o ran hawliau menywod hefyd, gyda system warchodaeth gan ddynion yn dal mewn grym sy’n atal menywod rhag gwneud cyfres o bethau bob dydd heb ganiatâd dynion.

Mae bod yn aelod o’r gymuned LHDTC+ hefyd yn anghyfreithlon yno, ac mae modd dedfrydu pobol sy’n torri’r gyfraith hon i farwolaeth, gydag ymchwiliad yn dangos bod nifer o ddynion dan amheuaeth o gyflawni’r ‘drosedd’ hon mor ddiweddar â mis yn ôl.

Mae Qatar hefyd yn manteisio ar lafur mewnfudwyr wrth gadw gweithwyr fel caethweision, gan gynnwys y rheiny sy’n adeiladu stadiymau ar gyfer Cwpan y Byd, yn ôl Amnest Rhyngwladol ac ymchwiliad gan The Guardian oedd yn dangos bod hyd at 1,000 o weithwyr wedi marw yno.

Dirprwyaeth o Gymru

Ymhlith y ddirprwyaeth o Gymru fydd yn teithio i Qatar mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford, Ysgrifennydd yr Economi Vaughan Gething, a Dawn Bowden, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon.

Daw’r daith hon yn groes i safbwynt Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur yn y Deyrnas Unedig, sydd wedi bod yn galw ar Lafur i gynnal boicot o Gwpan y Byd.

“Yr hyn rydym wedi’i weld dros yr wythnosau diwethaf ydi distyriaeth ofnadwy o hawliau dynol gan Lafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru,” meddai Jane Dodds.

“Daw sylwadau Andrew RT Davies heddiw yn y Senedd, lle gwnaeth e nid yn unig cymeradwyo Llywodraeth Cymru yn mynd i Qatar ond hefyd i Iran, er gwaetha’r ffaith fod rhai o’i aelodau ei hun gan gynnwys Laura Anne Jones AoS a Natasha Asghar AoS wedi mynychu protest mewn solidariaeth â phrotestiadau Iran yn ddiweddar.

“Yn yr un modd, mae sylwadau Elin Jones o Blaid Cymru ein bod ni’n ’difetha’r foment’ wrth godi pryderon am hawliau dynol yn dangos cyn lleied o ddiystyriaeth mae Plaid Cymru’n ei dangos o ran y mater.

“Rhaid codi llais dros hawliau dynol, waeth pa mor anghyfleus all hynny fod ar y pryd.

“Yna mae gennym ni Lafur Cymru – plaid gafodd ei sefydlu ar sail hawliau gweithwyr sydd yn ymddangos fel pe baen nhw’n hapus i anwybyddu’r ffaith fod miloedd o weithwyr sy’n ymfudwyr wedi marw yn Qatar, gan gynnwys wrth adeiladu stadiymau Cwpan y Byd, er mwyn ceisio buddsoddiad.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn glir, byddwn ni bob amser yn sefyll i fyny dros hawliau dynol, waeth pa mor anghyfleus yw hynny, ac mae’r ffaith mai ni yw’r unig blaid yn y Senedd sy’n fodlon gwneud hynny ond yn dangos pam fod cael lleisiau Rhyddfrydol yn y Senedd yn angenrheidiol.

“Dylai Mark Drakeford a Llafur Cymru ganslo’u taith ar unwaith.

“Oni bai bod y gweinidogion wedi cael dyrchafiad i’r tîm ei hun, fydd eu presenoldeb yn gwneud dim gwahaniaeth i sut mae tîm Cymru’n gwneud yn y twrnament.”

Beirniadu “rhagrith” Llafur Cymru wrth i Dawn Bowden wneud tro pedol ar ymweld â Qatar

Roedd disgwyl i’r gweinidog fynd i Gwpan y Byd, ond mae hi wedi penderfynu peidio mynd o ganlyniad i hawliau dynol yn Iran, un o wrthwynebwyr Cymru

Y Democratiaid Rhyddfrydol yn beirniadu Elin Jones am amddiffyn taith Mark Drakeford i Qatar

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi datgan bod y Prif Weinidog mewn perygl o gyfrannu at wyngalchu record hawliau dynol affwysol Qatar